Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb!
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn CTM a'r profiadau a'r gofal rydyn ni’n eu darparu i'n cleifion. Dyma rhai o’r uchafbwyntiau:
Fe wnaethom gyhoeddi ein taflen fer ar eich hawliau fel cleifion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol CTM
Mae dros 200 o aelodau staff wedi cael cymorth gan ein bwrdd iechyd i ddysgu Cymraeg neu i wella eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg am ddim
Rydym wedi cyflwyno canllawiau recriwtio newydd, sy’n golygu bod mwy o’n cleifion Cymraeg eu hiaith yn derbyn gofal yn eu dewis iaith
Mwynhaodd ein timau wythnos wych yn ddiweddarach ar Faes yr Eisteddfod, yn ymgysylltu gyda phobl o'n hardal leol a thu hwnt ar eu hiechyd a'u lles.
Mae ein staff wedi parhau i wneud cyfraniadau di-ri i wreiddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’n sefydliad er mwyn gwella gofal a phrofiad cleifion
Yn ddiweddar, cafodd interniaid Project SEARCH CTM eu gwahodd i Goleg Merthyr i ddysgu mwy am ddiwylliant a chynwysoldeb Cymreig, gan gynnwys y ffigwr symbolaidd Mari Lwyd.
Rhannodd Owen, intern â chymorth Project SEARCH: “Fe ddysgais i am y Fari Lwyd, hen draddodiad Cymreig sy’n dal i gael ei arfer yng nghefn gwlad Cymru. Roeddwn i'n hoffi bod Phyl wedi dod â'r Fari Lwyd i'r dosbarth a ches i weld sut brofiad yw ei ddefnyddio."
Ychwanegodd yr Arweinydd Dysgu a Datblygu, Rhian Lewis, “Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth gyda Project SEARCH a’r profiadau diwylliannol dylanwadol y mae’n eu rhoi i’n interniaid. Mae’r fenter hon yn amlygu ein hymrwymiad i ddathlu treftadaeth Cymru a hyrwyddo cynhwysiant o fewn ein cymuned gofal iechyd.”
Rydym yn gwneud cynnydd mawr tuag at ddod yn fwrdd iechyd dwyieithog, drwy gefnogi ein staff i ddatblygu eu sgiliau, a thrwy annog ein cleifion i ddefnyddio’r Gymraeg pan fyddan nhw’n derbyn triniaeth neu ofal gyda ni.
Gwyliwch y fideo yma i weld beth mae Cymraeg yn ei olygu i’n staff a’n cleifion.
Ydych chi neu rywun rydych yn gofalu amdano wedi cael profiad cadarnhaol o ddefnyddio’r Gymraeg yn ein bwrdd iechyd?
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth - bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'n staff ac yn ein helpu i barhau i wella. E-bostiwch ni ar CTT_WelshLanguage@wales.nhs.uk.
28/02/2025