Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

Mae heddiw (11 Chwefror) yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, dathliad byd-eang o’r menywod sy’n gweithio ac yn cyfrannu at feysydd cysylltiedig â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae’n cael ei ddathlu bob blwyddyn i annog mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfa yn y dyfodol yn y meysydd cyffrous hyn.

Yma yn CTM, mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn gyfle i ni arddangos rhai o’r menywod gwych sy’n gweithio mewn rolau STEM ar draws ein sefydliad ein hunain. O Awdioleg i Batholeg - byddwn yn rhannu eu proffiliau ar draws ein sianeli cymdeithasol bob dydd yr wythnos hon:

Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau iechyd a lles sylfaenol, eilaidd a chymunedol i tua 450,000 o bobl sy'n byw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Gyda gweithlu o dros 15,000 o staff, mae gennym gannoedd o yrfaoedd ac ystod eang o raglenni hyfforddiant arbenigol ar gael. Ymwelwch â'n gwefan Ymunwch â CTM os hoffech gael gwybod mwy Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Ymunwch â CTM.

Rydych chi hefyd yn cael eich gwahodd i ymuno â'n grŵp Facebook pwrpasol lle rydym yn postio ein holl swyddi gwag, gan eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd - Swyddi Facebook.

11/02/2024