Heddiw, mae tri hyfforddai graddedig rheoli yn nodi diwedd eu dau leoliad cyntaf ar y rhaglen reoli sy'n arwain at eu lleoliad terfynol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM). Mae'r rhaglen reoli wedi'i rhannu'n dri lleoliad saith mis o hyd, gyda'r cwrs yn rhedeg am ddwy flynedd.
Nod y rhaglen yw sicrhau bod hyfforddeion yn ennill gwybodaeth academaidd ac yn cael profiad dysgu ymarferol, drwy leoliadau gofal sylfaenol, gofal eilaidd ac is-adran gorfforaethol ledled Cymru, yn dibynnu ar sefydliad lleoli’r hyfforddeion. Drwy gydol y rhaglen, mae pob hyfforddai yn derbyn mentoriaeth helaeth, coetsio, hyfforddiant a thaith ymgyfarwyddo gynhwysfawr yn y sefydliad lle maen nhw wedi'u lleoli fel y gallan nhw wneud y gorau o'u profiad.
Ym mis Medi 2021, ymunodd tri unigolyn graddedig, Shannon Wills, Siobhan Flynn a Matthew Kvedaras, â ni yma yn BIP CTM ar eu lleoliad terfynol. Dechreuodd eu taith gyda rhaglen gynefino sefydliadol bedair wythnos o hyd a oedd yn cynnig trosolwg strategol o BIP CTM, gan gynnwys; gweithdai gwerthoedd ac ymddygiadau; cwrdd â'r Prif Swyddog Gweithredol, uwch-reolwyr a mentoriaid ledled y Bwrdd Iechyd; yn ogystal â chwblhau hyfforddiant craidd sy’n galluogi hyfforddeion i ddatblygu sgiliau ym maes rheoli ac arweinyddiaeth dosturiol. Buon nhw hefyd yn ymweld â gwahanol adrannau ac ysbytai i gael gwybodaeth am feysydd gwaith ac arbenigeddau gwahanol. Yna dechreuodd y graddedigion ar eu lleoliadau yn y Bwrdd Iechyd – roedd hyn yn dibynnu ar eu llwybr gyrfa dewisol.
Mae Matthew wedi gweithio yn y GIG ers 13 mlynedd, yn gyntaf fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, yna fel nyrs gofrestredig ac yn fwy diweddar fel dirprwy reolwr ward. Mae gan Matthew brofiad amrywiol, gan gynnwys naw mlynedd ym maes meddygaeth (gastroenteroleg a strôc) a phedair blynedd ym maes meddygaeth frys.
Dywedodd Matthew: “Rwy'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r garfan hon ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn amrywiaeth o dimau gwahanol yn y bwrdd iechyd. Mae'r cwrs hwn yn arbennig yn darparu profiad mewn lleoliad rheoli a'r cyfle i astudio MSc mewn Arweinyddiaeth Iechyd, a fydd, gobeithio, yn darparu'r sylfeini i ddod yn rheolwr llwyddiannus yn y GIG.”
Mae Shannon, sydd wedi graddio ym maes rheoli, yn gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Graddiodd o Ysgol Fusnes Prifysgol De Cymru gyda gradd mewn Busnes a Rheolaeth a hyfforddiant mewn Rheoli Prosiectau. Mae gan Shannon ddwy flynedd o brofiad yn y GIG yn cyflawni gwahanol rolau yn yr adran addysg a datblygu ac yn cefnogi'r gweithlu a datblygu sefydliadol. Yn ystod y pandemig, bu Shannon yn cefnogi'r rhaglen frechu a chynllunio.
Dywedodd Shannon: “Rwy'n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth drwy'r rhaglen i hyfforddeion rheoli a gwella fy sgiliau arwain tosturiol, gyda'r bwriad o ennill cymaint o brofiadau gwahanol â phosibl trwy wahanol dimau yn y bwrdd iechyd, i ddod yn rheolwr llwyddiannus yn y GIG.”
Mae Siobhan, sy’n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig ac mae ganddi brofiad ym meysydd cleifion mewnol acíwt sy'n oedolion, nyrsio dadwenwyno camddefnyddio sylweddau a hefyd nyrsio therapi electrogynhyrfol. Mae ganddi radd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd.
Ychwanegodd Siobhan: “Fy nyheadau ar y cwrs hwn yw dysgu ac amsugno cymaint ag y gallaf oddi wrth bawb o'm cwmpas drwy fanteisio ar bob cyfle. Drwy wneud hynny, gallaf, gobeithio, gyfrannu at newid a gwelliant i'n defnyddwyr gwasanaeth a'n staff.”
Dywedodd Michelle Hurley-Tyers, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad a Lles Gweithwyr ar gyfer BIP CTM: “Mae'n wych bod yma heddiw i ddathlu taith y graddedigion rheoli hyd yn hyn a chroesawu'r tri i'r Bwrdd Iechyd ar gyfer cam olaf eu rhaglen.
“Mae clywed y graddedigion yn myfyrio ar yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu a gwrando ar sut maen nhw wedi cyfrannu yn eu meysydd lleoliad wedi bod yn ysbrydoledig. Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn amlwg wedi bod yn allweddol i'r ffordd y maen nhw wedi mynd ati i gyflawni eu dyletswyddau ac maen nhw wedi gwneud yn fawr o bob profiad dysgu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eu cefnogi drwy gydol cam olaf eu rhaglen reoli.”
Ychwanegodd Claire Monks, Rheolwr Rhaglen Arweinyddiaeth i Raddedigion GIG Cymru, AaGIC: “Rwyf mor falch o fod yma heddiw i ddathlu'r graddedigion. Mae wedi bod yn bleser pur bod yn rhan o daith Matthew, Shannon a Siobhan ar y rhaglen i raddedigion. Mae eu moeseg gwaith a'u hangerdd tuag at y GIG yn amlwg ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth maen nhw'n mynd ymlaen i'w gyflawni ar y rhaglen a thu hwnt.”
11/01/2023