Datganiad ar y galw eithriadol ar draws ein Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Dr Dom Hurford:
“Rydym yn parhau i brofi galw eithriadol ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan, yn enwedig yn ein hadrannau achosion brys (EDs).
“Rydym am roi sicrwydd i’n cymunedau ein bod yn cydweithio â’n holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’n tri awdurdod lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, i wneud popeth o fewn ein gallu i wella’r sefyllfa’n gyflym i ein cleifion.
“Mae timau gofal cymdeithasol yn gweithio’n galed i geisio rhyddhau cleifion o’n hysbytai gyda’r pecyn gofal cywir ar gyfer eu hanghenion. Bydd hynny'n golygu y bydd mwy o welyau ar gael i'r cleifion sy'n dod drwy ein Adrannau Achosion Brys, a fydd yn ei dro yn lleihau ambiwlansys sy'n aros y tu allan i adrannau brys i drosglwyddo cleifion i ni. Mae ein meddygon teulu a’n cydweithwyr gofal sylfaenol hefyd yn gweithio dan bwysau aruthrol yn sgil apwyntiadau brys a rheolaidd.
“Mae'n ddrwg gennym ar gyfer y rhai ohonoch a fydd, yn anffodus, â phrofiad uniongyrchol o'r oedi a'r arosiadau hir am ofal yr ydym yn eu gweld ar hyn o bryd, ond mae angen i ni ddiolch i chi am weithio gyda ni ac am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Cofiwch, fel bob amser, diogelwch ein cleifion, ein cymunedau a’n gweithlu yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
“Yn olaf, os oes gennych chi anwylyd sydd yn un o’n hysbytai, ond sy’n ddigon iach i fynd adref a bod yna ffordd y gallwch eu cefnogi, siaradwch â’n timau ar y ward berthnasol. Byddai hyn yn help mawr i ni yn y sefyllfa bresennol.
“Diolch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth a diolch i’n holl staff am eich ymroddiad i ddarparu’r gofal gorau wrth i ni ddelio â’r pwysau eithafol hwn.”