Neidio i'r prif gynnwy

Da iawn i'r timau Ystadau a Chyfleusterau am ennill gwobrau am ragoriaeth yng Nghynhadledd Ranbarthol Cymru wythnos diwethaf!

Ymunodd y Sefydliad Peirianneg Iechyd a Rheoli Ystadau (IHEEM), Cangen Cymru a GIG Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau, Gwasanaethau Ystadau Arbenigol oll â’i gilydd i gyflwyno Cynhadledd Ranbarthol Cymru, Arddangosfa a Chinio Gwobrau Gala yr wythnos diwethaf yng Nghaerdydd.

Enillodd Chris Scully, Uwch Reolwr Ystadau Gweithredol CTM, Wobr fawreddog Pencampwr y Pencampwyr dros Ystadau.  Mae hyn yn cydnabod aelod o'r tîm Ystadau a Chyfleusterau sydd wedi mynd y tu hwnt i'w swydd ddisgrifiad i wella amgylchedd y claf.

Enillodd Mark Furmage, Rheolwr Ystadau Gweithredol, wobr hefyd ar ei ran ef a’i dîm – roedd gwobr tîm Ystadau a Chyfleusterau’r flwyddyn yn gwbl haeddiannol ac roedd wedi ei gwerthfawrogi’n fawr.

Moment falch arall i’r Bwrdd Iechyd oedd pan dderbyniodd Joel Holley Wobr Prentis y Flwyddyn. Mae Joel yn fyfyriwr Rhwydwaith 75 ym Mhrifysgol De Cymru, yn astudio ar gyfer gradd mewn peirianneg drydanol ac electronig, a derbyniodd y wobr am ei ymateb eithriadol i ddigwyddiad seilwaith trydanol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg y llynedd, tra roedd ar leoliad dwy flynedd o fewn yr Adran Ystadau.

Dywedodd Tim Burns, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio ar gyfer Cyfalaf ac Ystadau: “Rwy’n hynod falch o bob un o’n timau ac roedd yn bleser ein bod wedi ennill tair o’r pum gwobr a gyflwynwyd ar y noson.  Mae hyn yn dyst i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y timau Ystadau a Chyfalaf yn ddyddiol i gefnogi ein cleifion a’n staff a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio o amgylch ardal CTM.”

 

17/05/2023