Bydd cleifion ledled y DU yn elwa o system ymchwil glinigol fywiog, gyda chefnogaeth gwerth dros £64 miliwn mewn cyllid, a fydd yn achub bywydau ledled y wlad.
Yn dilyn y weledigaeth eofn 'Achub a gwella bywydau: dyfodol cyflenwi ymchwil glinigol yn y DU’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, nododd llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig heddiw gam cyntaf y gweithgaredd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a chaniatáu i fwy o gleifion fod yn rhan o ymchwil sydd yn berthnasol iddynt, ac elwa ohoni.
Bydd y gweithgaredd ar gyfer y misoedd nesaf yn cynnwys:
Meddai Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae ymchwil glinigol wedi bod yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 ac wedi arbed miloedd o fywydau. Gan weithio gyda llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae ein gweledigaeth uchelgeisiol ledled y DU ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn hanfodol os ydym am adeiladu ar y momentwm cyffrous hwn ac achub bywydau. Rydym yn gwireddu’r weledigaeth hon trwy barhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid ledled y DU, y GIG, rheoleiddwyr, diwydiant a'r sector ymchwil feddygol. Byddwn yn creu system ymchwil glinigol mwy arloesol, gwydn sy'n canolbwyntio ar y claf.”
Ni fu'r cysylltiad rhwng ymchwil a budd i gleifion trwy driniaethau a gofal gwell erioed yn gliriach. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ymdrechion ymchwil y DU sy’n brwydro yn erbyn COVID-19 wedi atgyfnerthu’r rôl hanfodol y mae ymchwil glinigol yn ei chwarae yn iechyd y boblogaeth. Bydd parhau i ddatblygu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd yn sicrhau dull manteisiol wrth fynd i'r afael â'r feirws.
Bydd y gweithgaredd yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys:
Meddai'r Arglwydd Bethell, y Gweinidog Arloesi:
“Bydd gweithio gyda chydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig ac ar draws y sector ar y cynllun uchelgeisiol hwn yn sicrhau ein bod yn datblygu amgylchedd ymchwil glinigol sydd o fudd i bawb ym mhob rhan o'r DU.
“Dyma'r cam cyntaf mewn gweledigaeth uchelgeisiol fawr. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf hyn i ddarparu ecosystem ymchwil sy'n gosod y DU fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil glinigol flaengar. Gydag ymchwil wedi'i hymgorffori ledled y GIG, bydd y DU yn arweinydd byd-eang mewn treialon ar gyfer triniaethau a thechnolegau newydd.”
Mae cyhoeddi'r cynllun yn dilyn o gytundeb hanesyddol Gweinidogion Iechyd y G7 i greu siarter treialon clinigol Therapiwteg a Brechlynnau newydd yn nodi’r egwyddorion a rennir i gyflymu'r modd y mae treialon clinigol yn cynhyrchu tystiolaeth gadarn a sut y gellir gweithredu eu canfyddiadau yn y pandemig hwn ac mewn pandemigau yn y dyfodol.
Meddai Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan:
“Mae gan Gymru gyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil glinigol ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ein rhan i wneud system ymchwil glinigol y DU yn un o'r goreuon, os nad y gorau, yn y byd. Mae'r cynllun a lansiwyd heddiw yn garreg gamu allweddol i gyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd. Rwy’n falch iawn o weld yr aliniad cryf i’n strategaeth ‘Cymru Iachach’, lle mae unigolion wrth wraidd trawsnewid a moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal, a lle mae ymchwil wedi’i ymgorffori mewn gofal o ansawdd uchel.
“Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i weithio ar y cyd gyda’r holl bartneriaid, ledled y DU ac ar draws Cymru, wrth i ni geisio atebion arloesol a gweithredu’r cynllun uchelgeisiol hwn er budd y cyhoedd, cleifion a’r gweithlu.”
Meddai Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban, Humza Yousaf:
“Mae gan yr Alban hanes hir o ymchwil iechyd arloesol a thrwy Ymchwil GIG yr Alban a Swyddfa Prif Wyddonydd Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid ledled y DU i greu amgylchedd ymchwil mwy arloesol a gwydn a fydd yn y pen draw yn gwella bywydau cleifion. Mae'r cynllun rydyn ni wedi'i lansio heddiw yn cydnabod pwysigrwydd cydweithredu a gweithio trawsffiniol, gan sicrhau bod y DU yn lleoliad cydlynol a symlach i ddenu ac ymgymryd ag ymchwil mewn economi fyd-eang.”
Meddai Robin Swann, Gweinidog Iechyd, Gogledd Iwerddon:
“Mae Gogledd Iwerddon yn cydnabod gwerth dull gweithredu ymchwil glinigol ledled y DU ac rydym wedi ymrwymo i gymryd rhan i gyflenwi'r weledigaeth hon. Rydym eisoes yn chwarae rhan lawn mewn llawer o'r ffrydiau gwaith ledled y DU, gan weithio mewn partneriaeth tuag at atebion cyfunol a chydnaws i greu ecosystem ymchwil glinigol sy'n dwyn budd i bob claf ledled y DU.”
Bydd gweithio ar y cyd a gwaith partneriaeth agos rhwng sefydliadau ledled y DU trwy'r rhaglen Adfer, Cydnerthedd a Thwf Ymchwil Glinigol y DU (RRG) – sy'n cynnwys cynrychiolwyr o holl adrannau iechyd y DU, y GIG, rheoleiddwyr, yr NIHR, elusennau ymchwil feddygol a diwydiant – yn helpu i wneud y DU un o'r lleoedd gorau yn y byd i gynnal ymchwil glinigol flaengar.