Mae dechrau mis Hydref yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, ymgyrch ryngwladol sy'n tynnu sylw at risgiau'r clefyd ac yn hyrwyddo sgrinio a chanfod canser y fron yn gynnar.
Ychydig dros ddwy flynedd ers agoriad swyddogol Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach ar ddydd Iau 21 Medi 2023, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch o nodi'r camau sylweddol a gymerwyd i gefnogi cleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron.
Gan ddeall pa mor anodd y gall yr aros fod i gleifion o atgyfeiriad gan feddyg teulu i'r apwyntiad cyntaf, mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach wedi lleihau'r amser hwn yn sylweddol, gyda 94% o'r holl apwyntiadau bellach wedi'u trefnu o fewn 10–12 diwrnod i'r atgyfeiriad.
Er mwyn sicrhau bod y broses hon mor gyfforddus ac effeithlon â phosibl i gleifion, mae eu hapwyntiad cyntaf yn glinig 'un stop', sy'n eu galluogi i weld clinigwr y fron, cael radioleg, a chwblhau'r holl ddiagnosteg ofynnol mewn un ymweliad.
I'r cleifion hynny sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron, mae triniaeth fel arfer yn cael ei chwblhau o fewn y dyddiad targed o 62 diwrnod, oni bai bod angen profion diagnostig mwy cymhleth ar gleifion.
Mae canoli'r gwasanaeth wedi galluogi'r tîm i ddarparu safonau aur o ofal a thriniaeth i gleifion ym mhob cam o'r daith. Dywedodd Zoe Barber, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoplastig y Fron a Chyfarwyddwr Arbenigedd Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Gwasanaethau’r Fron yn BIPCTM: “Mae ein tîm amlddisgyblaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol yn gweithio’n ddiflino i wneud i bob cyswllt gyfrif i’n cleifion.
“Wrth fyfyrio ar y gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, i sicrhau amseroedd aros llai cynaliadwy a phroses symlach ac effeithlon ar gyfer diagnosteg a thriniaeth, mae wedi sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld a’u trin yn gyflym, yn dosturiol a gyda’r gofal gorau posibl. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau’n barhaus a darparu gofal o ansawdd uchel i’n cymuned.”
Mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach hefyd yn darparu ystafell brosthesis bwrpasol ar gyfer cleifion sy'n dychwelyd ar ôl triniaeth. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu ffitiadau bra a phrosthesis i gleifion, gyda chefnogaeth nyrs ymroddedig i gynorthwyo cleifion yn eu hadferiad parhaus a'u taith ar ôl triniaeth canser.
Gellir cefnogi’r Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach trwy ein Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg: Snowdrop Breast Centre Fund - Supporting Breast Cancer Care in Cwm Taf Morgannwg - JustGiving
Mae’r Elusen yn cefnogi staff a chleifion drwy ariannu prosiectau a gwasanaethau sy’n mynd tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
Cysylltwch â'r tîm Elusen ctm.charity@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i godi arian.
07/10/2025