Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Peilot Ymyrraeth Brechlyn Ffliw yng Nghynhadledd Gwyddor Iechyd y Cyhoedd y DU 2024

Cyflwynwyd crynodeb peilot ar gynyddu nifer y plant dwy oed sy'n cael Brechlyn Ffliw Byw wedi'i Wanhau gan Dr Megan Elliott, Prif Ymchwilydd CTM, yng nghynhadledd mis Tachwedd y llynedd.

Nid yw'r nifer sy'n cael y brechlyn ffliw byw wedi'i wanhau (LAIV), sy'n amddiffyn plant dwy oed rhag y ffliw a salwch difrifol, cystal ag y bo modd ledled Cymru, ac yn is na thargedau Llywodraeth Cymru. Nod y peilot CTM oedd ymchwilio i effaith llythyr apwyntiad personol ar y nifer sy'n cael y brechlyn mewn detholiad o bractisau meddygon teulu.

Cafodd Cynhadledd UK Public Health Science: Cynhadledd Genedlaethol Ymroddedig i Ymchwil Newydd yn Iechyd Cyhoeddus y DU ei gynnal yng Nghaerdydd ar 29 Tachwedd 2024. Mae’r gynhadledd flynyddol hon yn arddangos ymchwil iechyd cyhoeddus blaengar ac arloesol o bob rhan o’r DU ac Iwerddon gyda chyflwyniadau derbyniol yn cael eu cyhoeddi ar-lein gan The Lancet. Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi, ac arbenigwyr o brofiad ynghyd i rannu a thrafod materion cyfoes, safbwyntiau, a heriau ym maes gwyddor iechyd y cyhoedd ac archwilio eu heffeithiau ar ymarfer, polisi, gwasanaethau iechyd ac ymchwil.

Rhoddodd Dr Megan Elliott, Prif Ymchwilydd (Iechyd y Cyhoedd), gyflwyniad byr o'r poster yn ystod sesiwn wedi'i gadeirio a ysgogodd ddiddordeb a chwestiynau gan y gynulleidfa.

Dywedodd Dr Elliott: “Awgrymodd y peilot y gallai anfon llythyrau apwyntiad fod yn ffordd effeithiol o gynyddu nifer y plant dwy oed sy’n cael eu brechu. Cafodd y canlyniadau a'r argymhellion eu rhannu gyda'r timau gofal sylfaenol ac imiwneiddio arbenigol CTM, a all ymgorffori'r canfyddiadau hyn yn eu dulliau o gynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu yn y dyfodol. 

Fel tîm peilot byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo'r gwaith hwn a chyfleoedd yn y dyfodol i wneud ymchwil yn y maes hwn.

Darllenwch y crynodeb llawn ar wefan Lancet.

10/02/2025