Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Hyfforddiant Realiti Rhithwir i staff gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae rhaglen hyfforddiant Realiti Rhithwir newydd, a datblygwyd gan Goggleminds, wedi cael ei chyflwyno ar gyfer staff gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i wella’r gwaith o reoli digwyddiadau llyncu risg uchel. Mae’r hyfforddiant trochi hwn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i staff ddelio ag argyfyngau sy’n gysylltiedig â dysffagia, gan wella diogelwch a gofal cleifion.

Anhawster llyncu sy’n gallu arwain at ddiffyg maeth, heintiau a hyd yn oed marwolaeth yw Dysffagia. Mae’n un o’r problemau iechyd dybryd y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu. Fodd bynnag, mae llwybrau gofal ar gyfer canfod a rheoli dysffagia yn parhau i fod yn ddigyswllt, gan arwain yn aml at oedi wrth asesu a rhestrau aros hir.

Mae'r modiwl hyfforddiant realiti rhithwir hwn ar gyfer staff yn efelychu ymgynghoriadau asesu llyncu bywyd go iawn, gan alluogi staff i ymgysylltu â rhyngweithiadau deinamig â chleifion mewn amgylchedd rhithwir realistig.

Drwy ddarparu profiad rhyngweithiol, mae'r rhaglen yn galluogi staff i gynnal ymgynghoriadau cymhleth, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth mewn lleoliad diogel a reolir. O ganlyniad, gall timau gofal ymateb yn fwy effeithiol i ddigwyddiadau llyncu risg uchel, lleihau derbyniadau i’r ysbyty, a chryfhau’r cydweithio rhwng therapyddion iaith a lleferydd, deietegwyr, fferyllwyr, a staff gofal cymdeithasol.

Dywedodd Azize Naji, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Goggleminds: Mae’r ymdrech gydweithredol hon nid yn unig yn gwneud hyfforddiant yn fwy hygyrch, effeithiol ac atyniadol, ond mae hefyd yn grymuso gweithwyr gofal proffesiynol i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion drwy bŵer technoleg.”

Dywedodd Sheiladen Aquino, Arweinydd Prosiect, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Mae’r prosiect hwn yn gam arloesol tuag at wir ymgorffori integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy roi hyfforddiant hanfodol i staff cartrefi gofal mewn asesiadau o bell ar gyfer llyncu, maeth a meddyginiaeth, rydyn ni’n sicrhau bod integreiddio nid yn unig yn gysyniad ond yn ddull ymarferol go iawn sy’n arwain at ofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y preswylwyr sydd ei angen fwyaf.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd sesiwn ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ yn Nhrem y Môr, Pen-y-bont ar Ogwr lle cyflwynwyd staff hyfforddi i’r rhaglen. Roedd y sesiwn yn edrych ar gymwysiadau ehangach realiti rhithwir mewn gofal iechyd, gan dynnu sylw at y manteision ar gyfer hyfforddi a gwella staff, ond hefyd ar gyfer ymgysylltu â chleifion a mynd â'u sylw oddi ar eu poen.

Un enghraifft o’r ddyfais Realiti Rhithwir sy’n cael ei defnyddio ar gyfer llesiant cleifion oedd senario bwerus gan aelod o dîm Cymunedau Digidol Cymru, a ddisgrifiodd sut roedd realiti rhithwir yn cael effaith gadarnhaol ar glaf â dementia. Gan ddefnyddio’r ddyfais realiti rhithwir, roedd y claf yn gallu ail-fyw atgof o wyliau ar y traeth arbennig. Gyda’i thraed mewn bwced o ddŵr, roedd y profiad trochol yn ei chludo’n ôl i’w hoff gyrchfan ar y traeth, gan greu ymdeimlad o dawelwch a bodlonrwydd.  

Roedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn frwdfrydig ynghylch effaith bosibl hyfforddiant realiti rhithwir i staff. Dywedodd Jodie Miller, Ymarferydd Cyswllt Therapi Iaith a Lleferydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Mae’n rhoi lle i staff ymarfer asesiadau o bell heb achosi unrhyw niwed posibl. Os ydyn nhw’n gallu magu hyder mewn lleoliad rhithwir, bydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel ac yn fwy cymwys mewn sefyllfaoedd go iawn.”

Dywedodd Thomas Bush, Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Iechyd Cyhoeddus Deieteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Rwy’n gweld hyn yn gweithio’n dda, yn ein profiad ni mae trosiant staff mewn cartrefi gofal yn eithaf uchel. Efallai fod rhai staff eisoes yn ymwybodol o’r deietegwyr, ond efallai na fydd eraill yn ymwybodol ohonyn nhw. Gallai cyflwyno’r wybodaeth hon mewn ffordd fwy diddorol a rhyngweithiol fod yn fuddiol iawn.”

Mae’r rhaglen Hyfforddiant Realiti Rhithwir yn ganlyniad i gydweithio rhwng y sectorau gofal iechyd, technoleg a gofal cymdeithasol, gan sbarduno arloesedd mewn darpariaeth gofal. Drwy gofleidio technoleg realiti rhithwir, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arwain y ffordd o ran sicrhau bod staff cartrefi gofal yn fwy parod i ymateb i anawsterau llyncu, gan wella iechyd ac ansawdd bywyd preswylwyr yn y pen draw.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect hyfforddiant Realiti Rhithwir yma.

19/03/2025