Yn CTM, rydym yn chwilio am gadeirydd cyflogedig newydd i ail-lansio ein grŵp partneriaeth Mamolaeth a Llais Newyddenedigol, 'My Maternity, My Way'. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio i'r Bwrdd Iechyd am 15 awr yr wythnos.
Mae Partneriaeth Llais Mamolaeth a Newyddenedigol (MNVP) yn grŵp o bobl leyg a chynrychiolwyr sy’n ffurfio rhwydwaith i wella gofal mamolaeth a newyddenedigol o fewn CTM.
Mae’r MNVP yn ceisio adborth ac yn gwrando ar brofiadau teuluoedd, ac yn dod â defnyddwyr gwasanaeth, staff a rhanddeiliaid eraill ynghyd i gynllunio, adolygu a gwella gofal mamolaeth a newyddenedigol. Ein nod yw sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd yr holl welliannau a datblygiadau i wasanaethau.
Ydych chi wedi rhoi genedigaeth o fewn y pum mlynedd diwethaf?
Ydych chi'n angerddol am wella gofal a phrofiadau mamolaeth a newyddenedigol?
Oes gennych chi sgiliau arwain a chyfathrebu da?
Oes gennych chi brofiad o adeiladu rhwydweithiau ac ymgysylltu â grwpiau a chymunedau?
Yna efallai mai dyma'r rôl i chi!
I wneud cais cliciwch ar y ddolen isod:
https://apps.trac.jobs/job-advert/7103181?ShowJobAdvert=&feedid=374
08/05/2025