Neidio i'r prif gynnwy

Cwrs Prehab yn gwella ffitrwydd cleifion cyn eu llawdriniaeth

Mae cwrs rhagsefydlu (Prehab) sy'n cael ei gynnal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn annog cleifion i ddod yn ffit ac yn iach cyn cael eu llawdriniaeth.

Yn wahanol i gwrs adsefydlu, nod Prehab yw gweithio gyda chleifion cyn iddyn nhw gael llawdriniaeth, i wneud yn siŵr eu bod nhw mor iach â phosib cyn mynd i'r theatr.

Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan Rhidian Jones, sy’n anesthetydd ymgynghorol. Esboniodd ef: “Nod dosbarth Prehab yw gwneud yn siŵr fod ein cleifion mor ffit â phosib i gael eu llawdriniaeth. Po fwyaf ffit rydych chi, y lleiaf tebygol rydych chi o gael cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth fawr fel hon.

“Trwy ddarparu'r gwasanaeth hwn i'r cleifion, y gobaith yw y byddan nhw’n cael eu llawdriniaeth heb unrhyw gymhlethdodau.”

Bydd cleifion yn mynd i ddosbarth deirgwaith yr wythnos ac yn gwneud awr o ymarfer corff yn ogystal â dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar ac addysg ynglŷn â ffyrdd iach o fyw.

Chris Jones yw'r hyfforddwr atgyfeirio cleifion at ymarfer corff, sy'n gweithio gyda'r cleifion. Meddai ef: “Rydyn ni’n cynnal sesiynau ymarfer corff ac addysg i helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd. Bydd hyn yn eu helpu i ddod yn fwy ffit a chryf er mwyn gwella’n gyflymach o lawer ar ôl eu llawdriniaeth. Mae tystiolaeth bod ymarfer corff yn fanteisiol iawn i helpu pobl i wella’n gyflymach ar ôl cael llawdriniaeth.

Kim Edwards yw un o'r cleifion sy'n cymryd rhan yn rhaglen Prehab. Meddai hi: “Dwi wedi cael diagnosis o ganser y colon ac mae’r sesiynau hyn yn wych. Mae’r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi’n rhagorol ac mae'r ymarfer corff yn llawn hwyl. Mae’n wych cadw’n ffit a mwynhau gyda phawb arall sydd yn yr un sefyllfa â fi.”