Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn falch o fod ar y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Digidol HSJ eleni; cydnabyddiaeth o’i hymroddiad i atebion digidol arloesol sy’n llywio dyfodol gofal iechyd ar draws y DU.
Mae Gwobrau Digidol HSJ yn taflu goleuni ar dimau a sefydliadau sy'n ysgogi newid ystyrlon trwy dechnoleg, gan wella canlyniadau cleifion, symleiddio prosesau, a gwella ansawdd cyffredinol gofal. Mae cyrraedd y rhestr fer yn dyst i ymrwymiad diwyro CTM i arloesi a rhagoriaeth mewn gofal iechyd digidol.
Mae’r ddau brosiect Bwrdd Iechyd a chafodd eu henwebu yn cael eu harwain gan Cheri Lewis, Uwch Swyddog Gwybodaeth Bydwreigiaeth, y mae ei harweinyddiaeth yn parhau i ysgogi trawsnewid digidol cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol mewn gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru.
Mae Cheri ar y rhestr fer yn y categori Arweinydd Digidol y Flwyddyn yn ogystal â’r Wobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Digidol. Mae’n arwain prosiect, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n darparu cardiau SIM data i fenywod a theuluoedd mewn angen, gan sicrhau bod ganddyn nhw fynediad dibynadwy at adnoddau digidol hanfodol.
Dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth y Bwrdd Iechyd: “Rydym yn hynod falch o Cheri a’r cyfraniad anhygoel y mae’n ei wneud i wella’r gofal y mae cymaint o’n menywod a’n teuluoedd yn ei dderbyn. Mae ei ffocws ar gynhwysiant digidol yn golygu y gall ein teuluoedd i gyd gael mynediad cyfartal i wasanaethau digidol hanfodol. Llongyfarchiadau Cheri!”
04/04/2025