Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr BIPCTM yn cynnal astudiaeth ymchwil sy'n anelu at wella diagnosteg canser yr ysgyfaint i lywio therapi a byrhau'r amser cyn i glaf dderbyn ei driniaeth.
Mae’r astudiaeth QuicDNA yn cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd. Nod yr astudiaeth yw gwerthuso a ellir defnyddio sampl gwaed, sef biopsi hylif, yn rheolaidd i helpu meddygon i gynllunio triniaeth eu cleifion mewn modd amserol unwaith y bydd diagnosis canser yr ysgyfaint wedi'i gadarnhau.
Y prawf cyfredol ar gyfer cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at y Clinig Ysgyfaint Mynediad Cyflym yw biopsi meinwe. Mae'r biopsi meinwe yn driniaeth feddygol sy'n cynnwys cymryd sampl fach o'r tiwmor a amheuir er mwyn ei archwilio o dan ficrosgop. Yna bydd y sampl meinwe yn cael ei anfon ar gyfer profion bioddangosyddion, prawf sy'n edrych ar gyfansoddiad genetig (DNA) y tiwmor, o'r enw proffilio genomig. Mae proffilio genomig yn helpu meddygon i roi diagnosis o’r union fath o ganser a chynllunio'r driniaeth orau ar gyfer pob claf unigol.
Mae'r astudiaeth QuicDNA yn ceisio gwella'r driniaeth bresennol trwy ymchwilio i ddull a ddatblygwyd yn ddiweddar i brofi'r wybodaeth genetig sy'n gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint.
Pan fydd celloedd canser yn marw, maen nhw’n cael eu torri i lawr ac mae eu cynnwys, gan gynnwys darnau bach o DNA, yn cael eu rhyddhau i'r gwaed: yr enw ar hyn yw DNA tiwmor sy’n cylchredeg (ctDNA). Mae'r prawf newydd yn cynnwys cymryd sampl gwaed, o'r enw biopsi hylif, sy'n cael ei ddadansoddi i chwilio am ctDNA yn y gwaed a chanfod y newidiadau genetig sy'n arwain at ddatblygiad tiwmor.
Rydym yn gobeithio y bydd y prawf gwaed syml hwn yn helpu meddygon i adolygu'r canlyniadau genomig yn gyflymach na chanlyniadau'r biopsi meinwe. Byddai hyn yn golygu bod cleifion yn derbyn y therapi mwyaf priodol mewn cyfnod byrrach. Yn ogystal, gall olygu y gallai cleifion osgoi cael biopsi sawl tro, a all fod yn anghyfforddus i'r claf.
Dechreuodd yr astudiaeth QuicDNA yn gynnar yn 2022 ac fe gafodd ei chynnal yn wreiddiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Ym mis Mai 2024 cynyddwyd nifer y safleoedd i agor yr astudiaeth i gynnwys Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr.
Ers agor yr astudiaeth ym mis Mai 2024, mae BIPCTM wedi recriwtio 117 o gyfranogwyr i'r astudiaeth hon o bob safle yn CTM, gan wneud BIPCTM y safle mwyaf llwyddiannus ar gyfer recriwtio, yn dilyn y cynnydd yn nifer y safleoedd agored ym mis Mai 2024.
Meddai'r Athro John Geen, (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu): "Mae'r cydweithrediad rhwng y meddygon Anadlol a thîm Ymchwil a Datblygu BIPCTM wedi bod yn eithriadol. Mae ymrwymiad pawb sy'n rhan o hyn wedi galluogi'r maes diagnosteg arloesol a datblygol hwn i symud yn ei flaen, lle bydd biopsi hylif yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel rhan o lwybrau ymchwilio yn y dyfodol ar gyfer llawer o ganserau. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi meddygaeth wedi'i phersonoli ac yn arwain at well canlyniadau i gleifion".
Dywedodd Dr Kelly Marshall, (Ymgynghorydd Anadlol a Phrif Ymchwilydd BIPCTM): "Mae cael cefnogaeth y tîm ymchwil wedi bod yn amhrisiadwy i lwyddiant yr astudiaeth QuicDNA yn BIPCTM. Mae cleifion wedi bod yn agored iawn i gymryd rhan ac o ganlyniad rydym wedi gweld rhai canlyniadau cadarnhaol mewn nifer o'n cleifion. Mae CtDNA wedi caniatáu i ni ddechrau triniaeth mewn modd amserol a bydd yn parhau i hwyluso gofal wedi'i bersonoli mewn nifer o ganserau".
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r prosiectau ymchwil hyn sy'n cael eu cynnal neu eu cefnogi gan dîm Ymchwil a Datblygu CTM, neu i siarad ag un o'r tîm, dewch o hyd i'r manylion cyswllt yma:
Ffôn: 01443 443421
E-bost: CwmTaf.R&D@wales.nhs.uk
Mae Tîm Ymchwil a Datblygu BIP CTM ar X:@CTMUHB_RD
20/06/2025