Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn Dathlu Wythnos Genedlaethol Profiad Gwaith 2025

Yr wythnos hon mae CTM yn dathlu Wythnos Genedlaethol Profiad Gwaith 2025 (14-18 Ebrill), sy'n ymroddedig i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, a manteision ymgymryd â lleoliad profiad gwaith.  

Sesiynau ar-lein am ddim 

Yn ystod yr wythnos, bydd CTM yn cynnal cyfres o sesiynau ar-lein rhad ac am ddim wedi'u hanelu at bobl ifanc 15-18 oed, i roi cipolwg iddyn nhw ar rolau gofal iechyd a llwybrau gyrfa a dysgu am gyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr.  Gallwch ddarganfod mwy yma 

Sbotolau ar Brofiad Gwaith CTM  

Mae CTM hefyd wedi rhoi sylw i rai o'r bobl ifanc sydd wedi ymgymryd â lleoliad profiad gwaith gyda CTM. Darganfyddwch sut y gwnaeth eu lleoliadau profiad gwaith eu helpu i ddysgu a thyfu:  

Callum – gweithiodd mewn Peirianneg Glinigol

Mwynhaodd Callum ystod eang o dasgau yn yr adran gan gynnwys tynnu offer ar wahân, profi thermomedrau, cynnal a chadw offer. 

Cordy – yn gweithio ar y ward Dementia

Wedi gweini cinio a brecwast, yn gydymaith da ac yn cefnogi gweithgareddau ar y ward. 

Declan – gweithio yn yr Ystafell Bost

Didoli post, dosbarthu parseli i wardiau. 

Jess – bu'n gweithio ym maes Arlwyo a chyn hynny Cadw Tŷ

Sychu byrddau, dyletswyddau ystafell fwyta, paratoi bwyd a llwytho'r peiriant golchi llestri. 

Tristan – yn gweithio yn Lliain

Llwytho'r trolïau i fynd i wahanol wardiau, danfon dillad gwely i wardiau. 

Dywedodd Rhian Lewis, Arweinydd Dysgu a Datblygu (Prentisiaethau, Cymwysterau, Llwybrau ac Ehangu Mynediad): “Mae Wythnos Genedlaethol Profiad Gwaith yn gyfle gwych i bobl ifanc ar draws y rhanbarth CTM ddysgu am wahanol rolau o fewn y bwrdd iechyd, ac i gael gwybod am y cyfleoedd profiad gwaith rydym yn eu cynnig. Hoffwn ddiolch i bob un o'r timau gwahanol sydd wedi cefnogi ein lleoliadau profiad gwaith blaenorol. Edrychwn ymlaen at groesawu a chefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol.” 

Gallwch ddarganfod mwy am gyfleoedd profiad gwaith CTM trwy e-bostio: CTM.WorkExperience@wales.nhs.uk 

 

 

14/04/2025