Yr haf hwn, partneriodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) â Choleg Merthy Tudful i gynnal ffair yrfaoedd gofal iechyd i ddisgyblion 16-18 oed ar gampws Merthyr Tudful yn ystod wythnos pontio'r coleg.
Daeth ystod eang o gydweithwyr a thimau BIP CTM at ei gilydd i ymgysylltu â'r myfyrwyr, i gynrychioli eu proffesiynau a rhannu mewnwelediadau ar gyfleoedd swyddi presennol o fewn y Bwrdd Iechyd. Roedd yr arddangoswyr yn cynnwys timau CTM o Wasanaethau Gweinyddol, TG a Digidol, Ystadau, Cyfleusterau, Cofnodion Meddygol, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Meddygol a Deintyddol, Iechyd Perthynol, a Gwasanaethau Gwyddor Iechyd.
Cafodd myfyrwyr gyfle i siarad yn uniongyrchol â staff, archwilio llwybrau gyrfa amrywiol ym maes gofal iechyd, a dysgu sut i wneud cais am rolau o fewn y Bwrdd Iechyd. Darparwyd gwybodaeth hefyd am sefydlu rhybuddion swyddi er mwyn cael gwybod am swyddi gwag yn y dyfodol.
Dywedodd Emily Summerhayes, Arweinydd Atyniad ac Adnoddau yn CTM: “Roedd Coleg Merthyr yn westeiwyr gwych. Cafodd staff gyfle i ddangos offer ac ymgysylltu â myfyrwyr, gan drafod y gwahanol opsiynau gyrfaoedd sydd ar gael gyda nhw. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn y rhanbarth, rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych o arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd sydd ar gael yn y GIG. Hoffem ddiolch i holl staff y coleg am eu holl gymorth a'u cefnogaeth ar y diwrnod.
Ychwanegodd Liana James, Partner Cyflogadwyedd yng Ngholeg Merthyr: “Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a'r ymdrech y gwnaeth staff CTM ei neilltuo i ymgysylltu â'n dysgwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol wrth helpu myfyrwyr i gael dealltwriaeth ddyfnach o lwybrau gyrfa lleol a'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael o fewn y rhanbarth. Drwy gysylltu myfyrwyr yn uniongyrchol â chyflogwyr, rydym nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o ddiwydiannau nad ydyn nhw efallai wedi'u hystyried o'r blaen, ond hefyd yn eu helpu i ddeall yn well y sgiliau allweddol sydd mewn galw ar hyn o bryd - megis cyfathrebu, gallu i addasu, a datrys problemau. Mae'r profiadau hyn yn allweddol wrth ysbrydoli uchelgais ac arwain dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i BIP CTM ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, cliciwch yma.
Gallwch hefyd weld y rolau diweddaraf drwy ddilyn tudalen Facebook Swyddi BIP Cwm Taf Morgannwg.
11/09/2025