Pan fyddwch yn ymweld â'r wardiau plant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl (PCH) ni fyddwch yn chwilio am wardiau 31 a 32 mwyach. Bellach mae'n Ward Crwban y môr (31) a Ward Octopws (32) y byddwch yn chwilio amdanynt.
Diolch yn fawr i'r plant a'r bobl ifanc wnaeth ymuno mewn cystadleuaeth i ddewis enwau'r wardiau newydd. Roedd Ward Crwban y Môr yn ffefryn gadarn, gydag Octopws yn dilyn yn agos y tu ôl; y ffefryn nesaf oedd Cregyn y Môr, sef enw newydd adran cleifion allanol i blant.
Cafodd enwau’r wardiau newydd eu dadorchuddio gan un o'n cleifion, Chadley Quinn, 12 oed, o Abercynon. Dywedodd mam Chadley, Laura, fod y driniaeth a chafodd ei mab yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn anhygoel a'i bod yn anrhydedd gweld Chadley yn rhan o'r ail-enwi swyddogol.
Yn ogystal ag ail-enwi'r wardiau, mae yna ardal synhwyraidd newydd bellach i blant ymweld â hi yn ystod eu harhosiad. Dywedodd Emma Probert, rheolwr ward yr uned: “Rydym yn falch iawn o fod wedi ymgysylltu â'n cymuned ac ysgolion lleol i ail-enwi'r wardiau yn PCH. Mae'r ardal bellach yn llawer mwy lliwgar ac mae'r enwau newydd yn gwneud y wardiau yn haws i rieni a theuluoedd eu cofio. Mae ychwanegu'r ystafell synhwyraidd at yr ardal hefyd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gefnogi ein cleifion pan fydd angen rhywfaint o amser tawel arnynt. Hoffwn ddweud diolch enfawr i blant a phobl ifanc ein cymuned, ein tîm ystadau am drefnu arwyddion y ward, ac i Jewson's am roi'r offer ar gyfer yr ystafell synhwyraidd.”
13/02/2024