Mae bod yn actif a threulio amser yn yr awyr agored yn cael ei brofi i wella hwyliau a chysgu, tra hefyd yn lleihau straen, gorbryder ac iselder. Er mwyn helpu i hybu'r cymhelliant sydd ei angen weithiau i fynd ati, rydym yn lansio ymgyrch CTM i gael ein poblogaeth CTM i symud beth sy'n cyfateb i Ferthyr i Ben-y-bont ar Ogwr (75,000 camau/symudiadau) dros gyfnod o dair wythnos (10 - 31 Ionawr).
Byddwch yn gallu cofrestru i'n hymgais iechyd a lles o ddydd Gwener 10 Ionawr.
Mae'r ymgyrch yn agored i bob aelod o'r gymuned leol a'r targed symud wythnosol yw 25,000 o gamau.
Sut i gymryd rhan
Cam 1: Cofrestru
Angen cymorth? Chwiliwch am yr eicon sgwrs glas a gwyn i siarad â chydweithiwr Getfit Wales.
Drwy gymryd rhan yn yr ymgyrch iechyd a lles hwn, rydych yn cydnabod bod unrhyw weithgareddau a wneir fel rhan o'r rhaglen yn cael eu gwneud ar eich risg eich hun, a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eu bod yn addas ar gyfer eich lefel ffitrwydd personol a'ch cyflwr iechyd.
Cam 2: Archwilio
Y cyfan sydd ei angen yw eich ffôn neu drac ffitrwydd i ddechrau!
Rydym yn ffodus iawn i gael teithiau cerdded hardd ar stepen ein drws yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Efallai y bydd yr adnoddau canlynol yn ddefnyddiol i chi gynllunio'ch gweithgaredd.
Pen-y-bont ar Ogwr
Teithiau cerdded lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Taflen gerdded a beicio – Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Rhondda Cynon Taf
Gwybodaeth am lwybrau cerdded unigol – gan gynnwys mapiau a fideos
Teithio llesol – gan gynnwys fideos a gwybodaeth am Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans
Merthyr Tudful
Ar gyfer yr her, bydd angen i gyfranogwyr gysylltu traciwr camsu (fel Fitbit, Garmin, neu Google).
Os nad oes gennych unrhyw un o'r dyfeisiau hyn, gallwch:
Rhannwch eich gweithgaredd gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol trwy ein tagio ni a defnyddio'r hashnod #YmgyrchCTMGetfit
Awgrymiadau gorau ar gyfer eich gweithgaredd
Cam 3: Cwblhau
Bob wythnos, unwaith y byddwch wedi cyflawni 25,000 o gamau neu symudiadau, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl iechyd a lles drwy ddewis ar hap a byddwch yn derbyn neges drwy ap Getfit Wales os ydych wedi ennill gwobr.
Bydd yr enillwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol CTM a Getfit Wales.
Gwobrau
Bob wythnos, bydd dwy raffl lle bydd gan enillwyr yr opsiwn i ddewis gwobr iechyd a lles sy'n gweddu orau i'w hanghenion a'u lleoliad. Mae'r gwobrau'n cynnwys taleb o £10 y gellir ei wario ar eitemau iechyd a lles mewn siopau ffrwythau a llysiau lleol, cigyddion, neu fel taleb ar-lein ar gyfer cynnyrch iach yn eich archfarchnad leol – Gweler y daleb am fanylion a chyfyngiadau.
Fel arall, gall yr enillwyr ddewis tocyn hamdden ar gyfer eu canolfan hamdden leol. Sylwch nad oes modd defnyddio'r tocyn canolfan hamdden ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd.
Gan fod y fenter hon yn canolbwyntio ar iechyd a lles, bydd rhai cyfyngiadau yn berthnasol. Bydd tîm Getfit Wales yn cysylltu ag enillwyr gyda mwy o wybodaeth am sut i hawlio eu gwobrau.
Rheolau’r Ymgyrch
Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio i fod yn hwyl ac i helpu pobl i fod yn actif, ond rydym am sicrhau ei fod yn deg i bawb felly rydym wedi creu ychydig o reolau ynghylch yr ymgyrch.
Mae'n rhaid bod gennych gyfeiriad CTM lleol i gofrestru.
Gall pob cyfranogwr ennill y raffl (£10 tocyn neu docyn hamdden) unwaith yn unig. Os ydych eisoes wedi ennill mewn wythnos flaenorol, ni fyddwch yn gymwys i'w ennill eto.
Mae'r bwrdd iechyd yn dymuno diolch i Getfit Wales am eu cefnogaeth partneriaeth o amgylch yr her lles corfforol cyffrous hon.
Darllenwch bolisi preifatrwydd Get Fit Wales.
09/01/2025