Neidio i'r prif gynnwy

Clinig galw heibio iechyd rhywiol newydd ar gyfer pobl ifanc

Mae clinig galw heibio iechyd rhywiol newydd ar gyfer pobl ifanc 25 oed ac iau yn cael ei lansio.

Yn dechrau dydd Mawrth 5 Tachwedd, bydd y clinig yn cael ei gynnal ddydd Mawrth cyntaf pob mis yn Y Coleg, Merthyr Tudful o 4 – 6yp.

Nid oes angen apwyntiad. Galwch heibio’r dderbynfa, gweld ein tîm cyfeillgar, croesawgar a thrafod eich anghenion iechyd rhywiol.

Gallwn eich helpu gyda:

  • Dulliau atal cenhedlu
  • Profi beichiogrwydd a chyngor
  • Sgrinio a mwy

Am ragor o wybodaeth neu i ofyn cwestiwn, ffoniwch 01685 728272 neu 01443 443836, neu ewch i’n tudalen we.

 

29/10/2024