Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion canser y pen a'r gwddf yn elwa o ddyfeisiadau newydd a ariennir gan elusen Faceup Cymru

Mae cleifion CTM sy'n byw gydag effaith canser y pen a'r gwddf wedi llwyddo i dreialu dyfais sy'n helpu ymarfer a chryfhau'r cyhyrau sy'n gysylltiedig â llyncu ac anadlu.

Wedi’i ariannu gan Faceup Cymru, cafodd cleifion canser y pen a’r gwddf y nodwyd eu bod mewn perygl o allsugno (lle mae bwyd neu hylif yn mynd i mewn i’r ysgyfaint) eu gwahodd yn dilyn llawdriniaeth/radiotherapi i dreialu’r dyfeisiau Hyfforddiant Cryfder Cyhyrau Allanadlol (EMST). Mae EMST yn cryfhau'r cyhyrau allanadlol yn raddol gyda'r nod o wella cryfder pesychu, gan helpu i symud a chryfhau’r cyhyrau llyncu, a darparu ystod ehangach o symudiadau laryngaidd.

Cafodd chwe chlaf eu gwahodd i sesiwn ragarweiniol ac yna dechreuodd raglen driniaeth chwe wythnos. Roedd y sesiwn hefyd yn gyfle i gleifion gwrdd ag eraill mewn sefyllfa debyg a darparu cefnogaeth gan gymheiriaid. Dywedodd un claf: “Dw i wedi aros am fisoedd i gael y ddyfais hon ac roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn oherwydd bydd yn helpu gyda fy anadlu a fy lleferydd a bwyta. Dw i’n eithaf hapus fy mod wedi cael gwahoddiad i ddod yma ac ymarfer heddiw.”

Yn dilyn triniaeth lwyddiannus, bydd y cleifion nawr yn cadw'r ddyfais am oes ac yn parhau â rhaglen cynnal a chadw. Dangosodd y rhai a ymlynodd yn llawn at y rhaglen welliant sylweddol yng nghryfder y cyhyrau. Nododd cleifion hefyd newidiadau cadarnhaol yn ansawdd cyffredinol eu bywyd, gydag un claf bellach yn gallu rhannu gwely gyda'i wraig am y tro cyntaf ers 18 mis oherwydd llai o sŵn yn gysylltiedig â'i symptomau. Dywedodd un arall ei fod yn teimlo bod ei stamina ar gyfer ymarfer corff wedi gwella a'i fod wedi dychwelyd i gerdded ac ioga.

Dywedodd Menna Payne, Prif Therapydd Lleferydd Clinigol Macmillan, “Dw i mor falch ein bod wedi gallu sicrhau'r dyfeisiau ar gyfer ein cleifion. Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Mike a Faceup Cymru am y rhodd hael hon sy’n ein galluogi i barhau i gefnogi cleifion ac atal dirywiad pellach yn eu gallu i lyncu. Mae pobl sydd wedi cael canser y pen a'r gwddf yn aml yn cael newidiadau gydol oes i'w bwyta, yfed a llyncu ac fel therapyddion iaith a lleferydd, rydym yn cefnogi cleifion trwy gydol y daith honno. Roedd hefyd yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd ac roedd y gyfeillgarwch yn amlwg, gyda chleifion yn annog ei gilydd a hyd yn oed yn canmol ei gilydd wrth iddyn nhw adael y sesiwn.”

Bydd Menna yn cyflwyno canfyddiadau a llwyddiant y dyfeisiau gyda chlinigwyr ledled Cymru yn nigwyddiad addysg Rhwydwaith Canser y Pen a’r Gwddf Cymru ym mis Tachwedd. Yn ogystal, oherwyddllwyddiant y rhaglen, mae Faceup Cymru yn garedig wedi cytuno i ariannu mwy o ddyfeisiadau sy'n golygu y gall CTM ddarparu'r gwasanaeth hwn i gleifion eraill.

Mae Faceup Cymru yn gweithio'n agos gyda BIP CTM i ddarparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y claf, yn enwedig prynu offer ond hefyd yn ariannu clinig symudol i alluogi cleifion i gael eu gweld mewn awyrgylch cyfeillgar yn hytrach nag yn yr ysbyty. 

Dywedodd Mike Fardy, Llawfeddyg Ymgynghorol y Genau a’r Wyneb / Pen a’r Gwddf a Chynghorydd Meddygol Faceup Cymru : Dim ond un rhan o’r pecyn cyffredinol ar gyfer y grŵp hwn o gleifion yw’r driniaeth a ddarparwn. Mae'n bwysig cofio'r cymorth parhaus sydd ei angen i ddarparu cymorth a chyngor ar bob agwedd o'u bywyd. Nid yw ein cymorth yn dod i ben wrth fynedfa'r ysbyty. Os oes unrhyw un yn teimlo y bydden nhw’n hoffi helpu mewn unrhyw ffordd, er enghraifft gyda chynnal boreau coffi i godi arian neu dod i ddarparu cefnogaeth i’r cleifion, cysylltwch â ni ar faceupcymru@gmail.com”.

Cafodd Faceup Cymru ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ôl i roi cymorth i gleifion â chanser y pen a’r gwddf. Gall cleifion fynychu cyfarfodydd a chwrdd â phobl debyg sy'n eu galluogi i osgoi teimlo'n unig. Mae’r elusen yn darparu cymorth uniongyrchol ac wedi darparu cyllid i benodi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Faceup Cymru.

18/10/2024