Mae ysbytai yng Nghymru yn ddi-fwg yn ôl y gyfraith, ac mae gan y Bwrdd Iechyd bolisi o beidio a fepio o dan do nac yn yr awyr agored. Mae mwg tybaco ail-law yn niweidiol iawn, a rydym wedi ymrwymo i amddiffyn iechyd pawb ar ein safleoedd ysbytai.
O heddiw ymlaen (3 Tachwedd 2025), mae tri uchelseinydd di-fwg wrth fynedfeydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru i gefnogi safleoedd di-fwg.
Os ydych chi'n gweld rhywun yn ysmygu neu’n fepio ger y fynedfa, gallwch helpu trwy wasgu'r botwm di-fwg. Mae'n chwarae neges fer sy'n atgoffa ni chaniateir ysmygu na fepio
Pam mae’n bwysig
Mae pob gwasgiad yn gwneud gwahaniaeth. Diolch am ein helpu i gadw'n ddi-fwg.
Gall ein gwasanaethau Helpa Fi i Stopio am ddim a chyfeillgar helpu unrhyw un sy'n edrych i roi'r gorau i ysmygu neu fepio. Os hoffech roi cynnig arni, ewch i wefan Helpa Fi i Stopio neu ffoniwch 0800 085 2219.
03/11/25