Yr wythnos hon, mae BIPCTM yn nodi Diwrnod Afu y Byd 2025 (dydd Sadwrn 19 Ebrill).
Dydd Iau 17 Ebrill bydd tîm Gofal Alcohol CTM yn cynnal stondinau yn Ysbyty Tywysoges Cymru g, yn rhannu taflenni a gwybodaeth ac yn rhoi cyfle i staff, cleifion ac aelodau’r cyhoedd ddysgu am iechyd yr afu, a niwed i’r afu sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Gallwch gwrdd â’r Tîm Gofal Alcohol ddydd Iau 17 Ebrill yn:
Ysbyty Tywysoges Cymru, llawr gwaelod y tu allan i’r fferyllfa (10am – 2pm)
Dywedodd Claire Astin, Ymarferydd Cyswllt Tîm Gofal Alcohol: “Rydym am ddefnyddio Diwrnod Afu’r Byd fel cyfle i siarad â staff, cleifion ac aelodau o’n cymunedau am iechyd yr afu, a chynghori pobl ar y niwed posibl y gellir ei achosi i’r afu drwy yfed dros y swm wythnosol sy’n cael ei argymell, sef 14 uned.”
“Mae camddefnyddio alcohol yn fygythiad mawr i iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae wedi'i nodi fel ffactor achosol mewn dros 200 o gyflyrau meddygol.”
“Ar y diwrnod, bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau i staff am yfed yn ddiogel a chyngor am unedau, canllawiau lleihau diogel, cyfeirio pobl sydd eisiau cymorth gydag yfed at wybodaeth, ac arwyddion rhybudd ar gyfer problemau iechyd afu posibl. Rydyn ni hefyd eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o'n tîm a beth rydyn ni'n ei wneud, y tu mewn a'r tu allan i ysbytai."
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd yr afu, ewch i:
https://britishlivertrust.org.uk/
Mae Tîm Gofal Alcohol CTM yn cynnig cymorth anfeirniadol a chyfrinachol a gallan nhw eich helpu i archwilio'r defnydd o alcohol. Maen nhw wrth law i wrando a darparu cyngor ac addysg arbenigol a gallan nhw eich cyfeirio at wasanaethau a chymorth cymunedol lle byddwch yn cael eich trin â pharch ac urddas.
I gael gwybod mwy am Dîm Gofal Alcohol CTM a’r cymorth y maen nhw’n ei gynnig, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/tim-gofal-alcohol-act/
16/04/2024