Neidio i'r prif gynnwy

Cau gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru dros dro

Gan ddechrau ddydd Llun 2 Medi, byddwn yn gwneud rhywfaint o waith gwella brys a hanfodol i’n hunedau newyddenedigol a mamolaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £1m yn nyfodol y ddwy uned yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig gofal diogel ac effeithiol i’n teuluoedd.

Yn ystod y cyfnod o 12 wythnos y bydd y gwaith yn cael ei wneud ynddo, ni fyddwn yn gallu cynnal parhad busnes ar draws y safle, ac felly bydd y timau mamolaeth a newyddenedigol yn cael eu hadleoli am gyfnod byr, i ffwrdd o Ysbyty Tywysoges Cymru. Os oes disgwyl i chi, neu rywun annwyl, gael babi yn ystod y cyfnod hwn, byddwch eisoes wedi trafod gyda'ch bydwraig gymunedol, ac wedi penderfynu ble y byddwch eich genedigaeth yn cael ei gynnal. 

Os yw eich dyfroedd wedi torri, neu os ydych yn meddwl eich bod yn barod i roi genedigaeth fel arfer, byddem yn eich annog i gysylltu â'ch man geni arfaethedig i wneud trefniadau i gael eich asesu gan fydwraig. 

• Os mai Canolfan Geni Annibynnol Tirion yw hon : 01443 443524 

• Os yw hwn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl (MPU): 07442 865989 / Y Ward Geni – 01685 728890 

• Os mai Ysbyty Singleton yw hwn: 01792 530862 

• Os mai Ysbyty Athrofaol Cymru yw hwn: Uned Asesu Obstetrig - 02920 744658 / Y Ward Geni – 02920 748565 / 02920 742679 / 02920 742686

Os ydych yn derbyn eich gofal cyn-geni yn BIP Cwm Taf Morgannwg ac mae gennych bryderon beichiogrwydd brys amdanoch chi neu am eich babi, cysylltwch â'r Uned Blaenoriaeth Mamolaeth (MPU) yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar 01685 728633.

Mae ein MPU ar gael 24/7. Mae hyn yn cynnwys os ydych wedi dewis cael eich babi mewn ysbyty arall. Er enghraifft, os ydych wedi archebu i roi genedigaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd neu Ysbyty Singleton, Abertawe, dylech barhau i gysylltu â’n MPU ar 01685 728633.

**YN YSTOD Y CAU HWN, NI FYDD TIMAU ARBENIGOL MAMOLAETH NEU NEWYDD-ENEDIG AR SAFLE YSBYTY TYWYSOGES CYMRU. OS YDYCH YN AMAU EICH BOD YN RHOI GENEDIGAETH, PEIDIWCH Â CHEISIO CAEL MYNEDIAD I'N HADRAN DAMWEINIAU AC ARGYFWNG GAN NI FYDD Y TIMAU MEDDYGOL A BYDWREIGAETH ARBENIGOL AR GAEL.**

Mae’r gwaith hwn yn dangos buddsoddiad sylweddol yn ein gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth ar safle Tywysoges Cymru a fydd yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn ein cymunedau yn y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein dogfen cwestiwn ac ateb.

 

 

30/08/2024