Bydd dwy o ganolfannau brechu cymunedol y Bwrdd Iechyd yn cau ddydd Iau a dydd Gwener yma (5 a 6 Mai) oherwydd yr etholiadau lleol.
Bydd y ganolfan yn Llantrisant (Canolfan Hamdden Llantrisant) a’r ganolfan ym Merthyr Tudful (Canolfan Hamdden Merthyr Tudful) yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfrif yr etholiad.
Mae'n golygu mai'r cyfle olaf i gerdded i mewn am frechlyn fydd dydd Mercher (4 Mai). Bydd y ddwy ganolfan yn cau am 4.30pm ddydd Mercher ac yn ailagor fel yr arfer ddydd Llun (9 Mai).
Fydd hyn ddim yn effeithio ar ganolfan Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd ar agor ddydd Iau a dydd Gwener.
Fodd bynnag, bydd y tair canolfan ar gau y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 7 Mai a dydd Sul 8 Mai), a bydd pob un yn dychwelyd i'r arfer ddydd Llun.
Tra bod y canolfannau ar gau, bydd ein timau brechu symudol allan yn y gymuned yn rhoi dos atgyfnerthu’r gwanwyn i’n cleifion sy’n gaeth i’r ty a’n preswylwyr hyn mewn cartrefi gofal.
Canolfan Frechu Gymunedol |
Iau 5 Mai |
Gwener 6 Mai |
Sadwrn 7 Mai |
Sul 8 Mai |
Llun 9 Mai |
Llantrisant |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
Ar agor fel yr arfer |
Merthyr Tudful |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
Ar agor fel yr arfer |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Ar agor fel yr arfer |
Ar agor fel yr arfer |
Ar gau |
Ar gau |
Ar agor fel yr arfer |