Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw newydd yn tynnu sylw at gymorth iechyd meddwl ar-lein i fyfyrwyr

Mae gwasanaeth iechyd meddwl digidol GIG Cymru wedi lansio canllaw bach newydd yn amlinellu cymorth sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr.

Mae SilverCloud Cymru yn cynnig cyfres o raglenni hunangymorth dan arweiniad sy'n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Yn ogystal â chymorth ar gyfer rheoli delwedd y corff, pryderon ariannol, cyffuriau ac alcohol - a mwy - mae'n cynnig rhaglenni sydd wedi’u creu ar gyfer myfyrwyr sydd angen help gyda gorbryder, straen ac iselder ysgafn i gymedrol.

Mae pedwaredd raglen a gynlluniwyd gyda myfyrwyr mewn golwg yn helpu adeiladu cadernid parhaol i rwystrau bywyd.

Mae SilverCloud Cymru yn cael ei reoli gan y Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Ar-lein ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Dywedodd arweinydd y tîm, Anya Pead: "Gall rhai pobl weld y newid mewn cyflymder sy'n dod gyda bywyd myfyrwyr yn brofiad rhyfeddol iawn, tra bod eraill yn teimlo eu bod wedi'u llethu gan ofynion eu hastudiaethau neu'r pwysau a all ddod gyda chymdeithasu.

"Rydyn ni’n credu na ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl gan eu hiechyd meddwl. Mae SilverCloud yn llawn offer ac ymarferion ymarferol i'ch helpu chi wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol a chwrdd â heriau bywyd myfyrwyr yn uniongyrchol."

Gall unrhyw un yng Nghymru 16+ oed atgyfeirio at SilverCloud am ddim heb weld meddyg teulu neu ymuno â rhestrau aros. 

Mae rhaglenni'n cymryd tua 12 wythnos i'w cwblhau ac mae angen ymrwymiad o gyn lleied â 15 munud y dydd, 3-4 gwaith yr wythnos. 

Caiff cynnydd ei fonitro gan gefnogwyr hyfforddedig, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach. 

Ychwanegodd Anya: “Bonws enfawr arall i SilverCloud yw’r hyblygrwydd. Gallwch gyrchu rhaglenni 24/7, ac nid oes angen teithio i glinigau na chadw apwyntiadau - perffaith ar gyfer bywydau prysur myfyrwyr."

Lawrlwythwch gopi o'r canllaw byr yma: biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/gwybodaeth-ac-adnoddau-defnyddiol/gwybodaeth-i-ddefnyddwyr-y-gwasanaeth/gafael-yn-awenau-iechyd-meddwl/

Cofrestrwch i SilverCloud yn https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/ 

27/01/2025