Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon ar gau dros dro o heddiw (8 Medi) nes y byddwn ni'n dweud fel arall

Os oes mân anaf gyda chi sydd angen triniaeth frys a byddwch chi fel arfer yn mynd i Ysbyty Cwm Cynon, dylech chi fynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn eich ysbyty agosaf, sef Ysbyty’r Tywysog Siarl i’r rhan fwyaf o bobl.

 

Rydyn ni wedi gorfod cau’r uned am y tro oherwydd problemau byrdymor o ran staffio, ond rydyn ni’n rhagweld y bydd hyn yn cael eu datrys yn fuan iawn. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosib pan fydd yr uned yn ailagor. Diolch am ddeall.

 

Fel yr arfer, gofynnwn i chi beidio â mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys na’r uned mân anafiadau oni bai bod gwir angen. Os nad yw’n achos brys, gallwch chi ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG 111 i gael y gofal sydd ei angen yn gyflymach: 111.wales.nhs.uk