Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias, wedi croesawu penodiad Aelod Annibynnol newydd i'r Bwrdd, Geraint Hopkins, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn dilyn proses ddiweddar o geisio enwebiadau gan bob un o’r tri awdurdod lleol sy’n cael ei wasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae’r Gweinidog wedi penodi Geraint yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd sy’n cynrychioli awdurdodau lleol, a hynny am gyfnod o bedair blynedd.
Daw Geraint â 18 blynedd o brofiad i’r Bwrdd o weithio gydag awdurdodau lleol, ac yntau wedi bod yn gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Treuliodd naw mlynedd o’r cyfnod hwnnw yn aelod o’r Cabinet, gyda phortffolio dros wasanaethau i blant, ac yn ddiweddarach, dros wasanaethau cymdeithasol i oedolion.
Yn ogystal â hynny, roedd yn Gadeirydd Bwrdd Rhiant Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, ac yn Ddirprwy Lefarydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dros Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn ddiweddar, mae Geraint hefyd wedi ymgymryd â rôl Clerc a Swyddog Priodol Cyngor Cymuned Llantrisant.
Meddai Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Emrys Elias, wrth groesawu penodiad Geraint: “Mae Geraint yn ased gwerthfawr i’r Bwrdd Iechyd. Bydd ei brofiad o wasanaethau cymdeithasol lleol yn arbennig yn werthfawr iawn wrth lunio dyfodol Cwm Taf Morgannwg.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Geraint fel Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n cynrychioli awdurdodau lleol.”
Ychwanegodd Geraint, “Rwy’n falch iawn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi fy mhenodi yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
“Am sawl blynedd, rwyf wedi gwasanaethu fel Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol, ac rwyf wedi pleidio’r achos dros gryfhau’r bartneriaeth rhwng y gymuned a gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
“Byddaf yn ymdrechu i wneud cyfraniad cadarnhaol at waith pwysig y Bwrdd wrth geisio gwella gwasanaethau i drigolion y rhanbarth.”