Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu ar ôl cael ei gydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru 2025.
Mae Gwobrau GIG Cymru yn arddangos gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch sy'n trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl Cymru.
Cyhoeddwyd bod timau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill y gwobrau yn y categorïau canlynol:
Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
Dathlu, dysgu, a chydweithio oedd canolbwynt digwyddiad eleni, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyfle i gymryd rhan mewn marchnadle posteri a sgyrsiau ysgafn. Rhannwyd eu gwaith a'u mewnwelediadau â chydweithwyr o bob cwr o GIG Cymru ac amlygodd sut y gall syniadau gwych ledaenu ac ehangu ar draws y system.
Dywedodd Paul Mears, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Hoffwn longyfarch ein timau yn fawr iawn am eu llwyddiant yng Ngwobrau GIG Cymru eleni. Mae cael ein henwi’n rownd derfynol mewn pum categori ac ennill dwy wobr yn dyst i waith caled ac ymroddiad cydweithwyr ar draws Cwm Taf Morgannwg. Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gofal amserol sy’n canolbwyntio ar y person, ac mae’n wych gweld sut mae arloesedd a chydweithio ar draws y Bwrdd Iechyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a chymunedau."
Gallwch weld y rhestr lawn o enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025 yn gwobraugig.cymru.
18/11/2025