Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Prifysgol Caerdydd, Interlink RhCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei gyd-arwain gan y Cyngor a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP).
Mae'r penderfynyddion ehangach o iechyd yn ffactorau anfeddygol sy'n dylanwadu ar ein hiechyd. Gall y rhain fod yn gorfforol, meddyliol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Maen nhw’n cynnwys pethau fel y lefelau llygredd aer yn eich stryd, ansawdd eich tai a'ch trafnidiaeth, pa mor dda yw'r ysgolion ac a oes gennych swydd.
Nod CYBI RhCT yw creu diwylliant ymchwil bywiog o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn sicrhau bod ystod o dystiolaeth yn cael ei defnyddio i helpu'r cyngor i wneud penderfyniadau a fydd o fudd i bobl sy'n byw o fewn RhCT. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi'r cydweithrediad hwn drwy weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i:
Yn ddiweddar, mae tîm CYBI RhCT wedi lansio'r gwefan Gwnewch Newid, sy'n anelu at rannu gwybodaeth am y prosiect a'r gwaith parhaus, a fydd yn annog trigolion RhCT i ymgysylltu â'r prosiect a rhannu meddyliau, barn ac adborth.
Dywedodd Philip Daniels, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r bartneriaeth arwyddocaol hon i bobl RhCT. Rydym am ddeall yn iawn brofiadau byw ein cymunedau lleol a'r ffactorau sy'n effeithio ar eu gallu i fyw'n hapus ac yn iach yn ein rhanbarth. Gallwn wella canlyniadau iechyd pobl, gwella gwasanaethau lleol ac adeiladu dyfodol iachach i'n poblogaeth leol trwy gymryd dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil, a thrwy weithio ar y cyd â'n partneriaid."
Mae CYBI RhCT wedi’i ariannu am bum mlynedd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal a dyma'r ail CYBI a ariennir yng Nghymru.
Gallwch ddarganfod mwy am Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT), a chymryd rhan yn y prosiect Gwnewch Newid yma: https://makeachange.rctcbc.gov.uk/
04/08/2025