Neidio i'r prif gynnwy

BIP CTM yn cefnogi Profi HIV

Dros y pum mlynedd diwethaf mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth HIV, a gall Cymru fod yn falch o’r gostyngiad sylweddol sydd wedi cael ei weld mewn diagnosau newydd o HIV. Rhwng 2015 a 2021 cafwyd gostyngiad o 75% yn nifer y diagnosau newydd o HIV. Fodd bynnag, mae HIV yn parhau i fod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig.

Yr wythnos diwethaf, llofnododd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg Ddatganiad Paris ac ymunodd â Menter Fast Track Cymru, gan gadarnhau ein hymrwymiad fel bwrdd iechyd i weithio ar y cyd i ddod â throsglwyddiadau newydd o Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) i ben. Gallwch ddarganfod mwy yma.

Dywedodd Dr Rob Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, BIP CTM: “Mae’n hawdd iawn gwirio’ch statws, ac mae bobl sy’n byw yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gallu archebu profion cyfrinachol am ddim ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gan gynnwys HIV.”

Yr wythnos diwethaf, yn ystod Wythnos Profi HIV, ymwelodd Tîm Iechyd Rhywiol CTM â champysau Coleg y Cymoedd yn Aberdâr a Nantgarw, gan gynnig profion am ddim, cyngor arbenigol a gwybodaeth i rymuso unigolion i gael prawf.

Sut i drefnu prawf HIV os ydych yn byw yn BIP CTM

Clinigau Iechyd Rhywiol BIP CTM
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal Clinigau Iechyd Rhywiol cyfrinachol am ddim sy'n cynnig profion HIV

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud apwyntiad, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/iechyd-rhywiol-ac-atgenhedlol-integredig-yn-ctm/

Gallwch hefyd wneud apwyntiadau drwy ffonio:

  • Merthyr a Chynon 01685 728272
  • Pontypridd a Rhondda 01443 443836
  • Pen-y-bont ar Ogwr 01656 763030

Pecynnau Profi drwy’r Post
Gallwch archebu pecyn profi HIV drwy'r post AM DDIM trwy glicio yma (16+): https://www.ircymru.online/pecyn-profi-a-phositio-sti-cymru.html

Gofynnwch i'ch meddyg teulu
Gallwch drefnu prawf HIV cyfrinachol am ddim yn eich Practis Meddyg Teulu.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am brofion HIV ac Iechyd Rhywiol, ewch i: https://www.ircymru.online/

21/02/2025