Neidio i'r prif gynnwy

Bellach mae'n ofynnol i gleifion, staff a'r cyhoedd wisgo masg ym mhob lleoliad ysbyty acíwt a chymunedol ar draws CTM

Oherwydd cynnydd mewn achosion o ffliw yn ein hysbytai a’n cymunedau, mae BIP CTM wedi penderfynu ei gwneud yn ofynnol i’r holl staff, cleifion ac ymwelwyr (ac eithrio’r rhai sydd wedi’u heithrio’n feddygol) wisgo masg ym mhob lleoliad ysbyty acíwt a chymunedol.

Bydd masgiau yn cael eu darparu wrth fynedfeydd adeiladau.

Mae’r gofyniad hwn yn hanfodol i ddiogelu ein cleifion, staff ac ymwelwyr ac mae’n berthnasol i’r ardaloedd sy’n cael eu rhestru isod hyd nes y clywir yn wahanol:

 

  • Pob lleoliad cleifion mewnol (rhannau o ysbytai lle mae cleifion yn aros dros nos)
  • Ardaloedd drws ffrynt (gan gynnwys adrannau argyfwng a gofal argyfwng ar yr un diwrnod)
  • Ardaloedd cleifion allanol (gan gynnwys meddygon teulu y tu allan i oriau)

 

Hoffem hefyd atgoffa’r cyhoedd, cleifion a’r rhai sy’n ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty o bwysigrwydd atal lledaeniad salwch. Helpwch ni drwy ddilyn y camau isod:

Cael eich brechu

Os ydych yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw neu COVID, peidiwch â cholli allan. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y feirysau hyn.

Cynnal hylendid dwylo da

Golchwch eich dwylo'n aml â sebon a dŵr, neu defnyddiwch ddiheintydd dwylo. Gall hyn ymddangos fel peth bach, ond mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Ymweld yn gyfrifol

Mae achosion o'r ffliw, COVID, a salwch fel Norofeirws (byg chwydu'r gaeaf) yn cynyddu. Gall y feirysau hyn fod yn beryglus i gleifion sy’n agored i niwed mewn ysbytai, a gallant achosi prinder staff. Os ydych yn credu bod feirws gyda chi, neu wedi treulio amser gyda rhywun sydd â feirws yn ddiweddar, dylech osgoi ymweld ag ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

 

 

03/01/2025