Heddiw, ymwelodd Vaughan Gething, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi â’n Hwb arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Roedd y cyfarfod partneriaeth yn arddangos rôl sylweddol arloesi rhanbarthol wrth ysgogi gwelliannau i iechyd a lles yn ogystal â thwf economaidd.
Cyflwynwyd y Gweinidog i ystod amrywiol o ddatblygiadau gofal iechyd arloesol sydd ar waith yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg; o gynaliadwyedd a phrototeipio i weithgynhyrchu, a SMART Housing.
Cysylltodd y digwyddiad y mynychwyr â ffigurau dylanwadol yn y diwydiant technoleg; darparu llwyfan ar gyfer cydweithrediadau a phartneriaethau posibl.
Wrth annerch y rhai a oedd yn bresennol, dywedodd y Gweinidog: “Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych I weld y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr hwb a’r parneriaethau sydd wedi’u ffurfio ers ei sefydlu. Mae arloesi yn hanfodol nid yn unig oherwydd ei werth I’n heconomi, on dame I botensial I newid Cymru er mwyn canolbwyntio’n well ar ganlyniadau cymdeithasol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo I grufhau arloesedd a’r defnydd o dechnolegau newydd, a all gefnogi Cymru wyrddach, gyda gwell Iechyd, swyddi gwell a ffyniant I bawb.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol, yr Athro Greg Dix, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
"Mae hyrwyddo arloesedd rhanbarthol yn hanfodol ar gyfer meithrin gwelliannau i ofal a thwf economaidd, ac mae digwyddiadau fel heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth arddangos y datblygiadau dylanwadol a wnaed mewn gofal iechyd trwy gydweithio. Rwy'n awyddus i gymryd rhan mewn trafodaethau am y partneriaethau hyn a'u potensial i lunio'r dyfodol.
“Rhoddodd heddiw gyfle gwych i ni ddod at ein gilydd i ennill gwybodaeth werthfawr, cyfnewid syniadau, a dod o hyd i ysbrydoliaeth i feithrin arloesedd, cynaliadwyedd a datblygiad economaidd yn ein rhanbarthau priodol”.
Marc Penny, Director of Improvement and Innovation, Cwm Taf Morgannwg University Health Board said:
“Mae cydweithio yn hanfodol ar gyfer ysgogi arloesedd rhanbarthol gan wella iechyd a lles y cleifion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu tra’n cefnogi twf economaidd. Mae ymweliad Gweinidogol iCTM yn dangos pŵer partneriaethau o ran sicrhau canlyniadau effeithiol a chefnogi strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru. Rydym yn gyffrous i rannu ein stori a dod ag ymwybyddiaeth i bosibiliadau arloesi rhanbarthol.”
Tai SMART
Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos prosiect arloesol; prosiect hynod gydweithredol sy’n anelu at wella iechyd a lles ar gyfer poblogaeth leol Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r prosiect yn defnyddio dull a yrrir gan ddata i nodi’r meysydd gorau posibl ar gyfer buddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yng Nghwm Taf Morgannwg, i leihau costau gofal iechyd a gwella disgwyliad oes ymhlith poblogaethau sy’n agored i niwed. Mae’r
platfform digidol yn cysylltu data tai, effeithlonrwydd ynni, a iechyd/gofal iechyd ar lefel unigolion ac aelwydydd i olrhain a dadansoddi patrymau er mwyn nodi meysydd allweddol o angen a datblygu dulliau cynaliadwy er budd cleifion.
Nod SMART Hosing yw hyrwyddo gwerth ymgorffori mesurau iechyd ac atal mewn gwelliannau tai trwy ddefnyddio cynlluniau gwella sydd ar gael i drigolion o fewn CTM, gan greu cymunedau iachach a mwy gwydn yn y pen draw.
Meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru ac India
Roedd hon yn drafodaeth allweddol heddiw, yn benodol cefnogi a mentora cwmnïau technoleg feddygol Indiaidd. Drwy’r ymweliad hwn, rhagwelir y bydd rhagor o gydweithio rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a T-Hub India. Mae gan y cyfnewid hwn o syniadau ac arbenigedd y potensial i ysgogi arloesedd a thwf yn sectorau technoleg y ddwy wlad.
Hoffem ddiolch i'n rhanddeiliaid allweddol am eu cyfranogiad:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | iCTM (Improvement and Innovation Cwm Taf Morgannwg) | Regional Innovation Coordination Hub (RIC HUB)| Prifysgol De Cymru| Elite solutions| Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru| Gwalia Healthcare| Hyb Cydgysylltu Arloesedd Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro | T-Hub India| Really Agile Consulting | Hafod Housing.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r datblygiadau arloesol hyn, anfonwch e-bost at (Lauren.Ware@wales.nhs.uk)
10/11/2023