Mae iechyd a lles ein cymunedau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella mynediad at wasanaethau diogelu iechyd hanfodol, mewn partneriaeth â'n Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol CTM.
Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym wrth ein bodd yn cyflwyno ein fan diogelu iechyd – dull arloesol a rhagweithiol o ddod â gofal yn uniongyrchol i galon ein cymunedau.
Bydd yr uned symudol hon yn:
Beth sydd ar gael ar hyn o bryd?
Bydd yr uned symudol yn cynnig amrywiaeth o frechiadau, megis COVID-19, RSV a’r ffliw, i’r rhai sy’n gymwys yn y gymuned.
Cofiwch fod cyflenwad cyfyngedig o frechiadau ffliw ar gael yn yr uned. Mae’r brechiad ffliw hefyd yn parhau i fod ar gael gan eich meddyg teulu neu’ch fferyllfa leol. Mae manylion llawn am bwy sy’n gymwys ar gael ar ein gwefan.
Os ydych angen unrhyw un o’r brechiadau hyn, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’n staff brechu yn yr uned, a fydd yn barod i’ch helpu.
Ble i ddod o hyd i ni
Dewch o hyd i ni rhwng 10am a 3.30pm yn:
Gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn pobl agored i niwed
Drwy weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector, grwpiau cymunedol, a thimau iechyd cyhoeddus, rydym yn cryfhau ein gallu i amddiffyn a hyrwyddo iechyd mewn ffordd hygyrch, ymatebol, a chynaliadwy.
Y gaeaf hwn, am y tro cyntaf, rydym wedi ymuno â sawl partner trydydd sector i gefnogi ein hymgyrch brechu rhag y ffliw. Chwiliwch am ein deunyddiau, sy'n cynnwys pobl leol ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, yn lansio'n fuan iawn ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Mae partneriaid lleol hefyd yn helpu i sicrhau lleoliadau cyfleus ar gyfer ein fan brechu, gan gynnwys Canolfan Gymunedol Ton a Gelli a Chanolfan Gymunedol Maerdy, gan sicrhau y gall pobl gael eu hamddiffyn yn agos at adref.
21/11/2025