Neidio i'r prif gynnwy

Annog pobl i gael brechlyn ffliw i leihau'r risg o salwch difrifol i bobl sy'n agored i niwed

Mae arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd yn annog pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i gael eu brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn i helpu i'w hamddiffyn rhag salwch difrifol. 

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i bobl â chyflyrau iechyd penodol fel asthma a diabetes sy'n eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau difrifol o ganlyniad i'r feirws ffliw.  
 
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn. 

Mae oedolion â chlefyd cronig yr afu dros 48 gwaith yn fwy tebygol o brofi canlyniadau difrifol o'r ffliw, tra bod y rhai â systemau imiwnedd gwan yn wynebu risg sydd dros 45 gwaith yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol. 

Cynigir y brechlyn ffliw bob blwyddyn i helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol. Mae'n arbennig o bwysig i oedolion hŷn, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc a menywod beichiog gan y gall dal y ffliw yn ystod beichiogrwydd gael effeithiau difrifol ar iechyd menywod beichiog a babanod.  

Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu bob blwyddyn i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid rhag y ffliw. Y llynedd yng Nghymru, gwnaeth bron i 200,000 o bobl â chyflyrau fel diabetes, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chlefyd y galon amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechlyn ffliw.  

Cafodd mwy na 10,000 o fenywod beichiog yng Nghymru eu brechlyn ffliw y llynedd hefyd i helpu i amddiffyn eu hunain a'u babanod.  

Mae brechu rhag y ffliw yn lleihau'r risg o haint, yn lleihau difrifoldeb salwch, yn helpu i amddiffyn grwpiau agored i niwed rhag cymhlethdodau difrifol ac yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu'r salwch i eraill. 

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr, menywod beichiog a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.  

Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) yn gymwys, ac mae plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd (blwyddyn derbyn i flwyddyn 11) hefyd yn gymwys i gael brechlyn ffliw. Rhowch eich cydsyniad i’ch plentyn gael ei frechlyn ffliw, er mwyn helpu i’w amddiffyn rhag salwch difrifol.  

Dywedodd Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Mae pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i atal lledaeniad salwch y gaeaf, yn ogystal ag amddiffyn ein hunain. Brechu yw'r arf mwyaf effeithiol yn erbyn y ffliw o hyd, ond mae mesurau hylendid syml fel golchi dwylo'n rheolaidd, ac aros gartref os ydych chi'n sâl, hefyd yn helpu i atal heintiau a all fod yn ddifrifol iawn i rai pobl. 

“Dechreuodd tymor y ffliw yn gynnar y llynedd, a pharhaodd drwy gydol y gaeaf, gan ychwanegu pwysau at y system iechyd a gofal ac effeithio ar ddarparu gwasanaethau meddygol. Peidiwch ag oedi cyn cael eich brechiadau pan gewch eich gwahodd. Rhowch yr amddiffyniad gorau i chi'ch hun ar gyfer y tymor sydd i ddod.” 

Am ragor o wybodaeth am sut i gael eich brechlyn ffliw, ewch i’n tudalen brechlyn ffliw

Hefyd, gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am imiwneiddio a brechlynnau

 

21/10/2025