Neidio i'r prif gynnwy

Ailwampio Gardd Synhwyraidd yn Ysbyty Cwm Cynon

Mae'r Ardd Synhwyraidd yn Ysbyty Cwm Cynon wedi cael ei hailwampio yn ddiweddar. Ar ôl cael ei defnyddio ers amser maith fel lle i arddangos placiau coffa, cafodd y tîm yn yr ysbyty roddion i helpu i roi bywyd newydd i'r ardal.

Ar ôl sandio a phaentio meinciau yn yr ardd, roedd staff hefyd wedi plannu blodau a phlanhigion mewn gwelyau wedi eu codi, potiau a basgedi hongian, gan gynnwys lafant a mintys i gynnig arogleuon gwahanol. Maen nhw hefyd wedi ychwanegu tlysau ac addurniadau gan gynnwys melinau gwynt, goleuadau blodyn yr haul LED, goleuadau tylwyth teg, pili-palod addurnol, clychau gwynt a phlaciau addurnol.

Dywedodd Kelly Bright, Uwch Nyrs: “Nawr mae gan gleifion sy'n mynychu ar gyfer clinig ardd synhwyraidd hardd i helpu gyda lles a gorbryder yn ystod apwyntiadau.”

Dywedodd Kristy Jones (teitl): “Gall ymweld ag ysbyty a mynychu apwyntiadau ysgogi gorbryder a straen i lawer o bobl. I ddechrau, bwriad yr ardd synhwyraidd oedd ar gyfer pobl sy'n mynychu adran iechyd meddwl y bobl hŷn. Fodd bynnag, penderfynon ni y dylai'r ardd fod yn fan cyhoeddus, ac yn hygyrch i staff, cleifion, gofalwyr ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n cyrchu'r ysbyty.

“Hoffem ddiolch i bawb a weithiodd ar y prosiect gardd synhwyraidd ac a’i cefnogodd, yn enwedig Karen Thomas, Gail Jones, Beverly Davis a Jade Benjamin. Fe wnaeth cymaint o bobl roi eitemau, amser ac arbenigedd i'n helpu ni i wella'r ardd, ac fe wnaeth fy mam ein helpu ni yn garedig, gan nad oedd neb yn y tîm yn gwybod dim am arddio! Mae'r planhigion, y goleuadau a'r addurniadau i gyd yn cyfuno i ddarparu lle synhwyraidd gwych y gall ein cleifion a'n hymwelwyr ei ddefnyddio ar gyfer gorffwys ac ymlacio, ac i gael lle tawel ac ymlaciedig i ddod iddo pan fyddan nhw’n ymweld â'r ysbyty.

Os hoffech ymweld â'r Ardd Synhwyraidd yn Ysbyty Cwm Cynon,  mae ar y coridor ambiwlans gyferbyn â Ward 7.

15/08/2024