Neidio i'r prif gynnwy

Ailgyflwyno ciosgau hunan-gofrestru ar draws rhai o'n Hadrannau Cleifion Allanol o fewn CTM

O 27 Ionawr 2026 ymlaen, bydd ein prif adrannau Cleifion Allanol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Rhondda a Pharc Iechyd Dewi Sant yn ailgyflwyno ciosgau hunan-gofrestru.

Ers i’r system hunan-gofrestru gael ei thynnu dros dro, nododd adborth gan gleifion a staff nifer o heriau o fewn yr adrannau cleifion allanol. Roedd hyn yn cynnwys amseroedd aros hirach i gofrestru, cynnydd mewn ciwiau, a llai o breifatrwydd.

Rydym yn falch o ailgyflwyno'r ciosgau hunan-gofrestru i helpu i leddfu'r pwysau hyn ar gleifion a gwella'r profiad cyrraedd yn ein hadrannau.

O 27 Ionawr, bydd y system hunan-gofrestru ar gael yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Yr wythnos ganlynol, bydd systemau hunan-gofrestru Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda a Pharc Iechyd Dewi Sant i gyd yn weithredol, gyda Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr wythnos ganlynol.

Golygai hyn y tro nesaf y bydd angen i glaf fynychu’r Adran Cleifion Allanol yn un o’r safleoedd hyn, byddent yn medru hunan-gofrestru’n gyflym, yn breifat ac yn effeithlon.

Sut mae’n gweithio

  1. Ewch i giosg hunan-gofrestru pan fyddwch chi'n cyrraedd.
  2. Rhowch eich manylion (dyddiad geni a chod post).
  3. Byddwch yn cael eich cofrestru a bydd ein system yn rhoi gwybod i dîm y clinig eich bod wedi cyrraedd.
  4. Eisteddwch; cewch eich galw pan ddaw eich tro.
  5. Yn yr adran cleifion allanol fe welwch sgriniau galw mawr, cadwch lygad ar y sgriniau hyn gan y byddant yn rhoi gwybod i chi pryd mae eich clinigwr yn barod i'ch gweld.

Os na all cleifion ddefnyddio'r system hunan-gofrestru, bydd timau'r dderbynfa yn eu cefnogi i gofrestru yn yr Adran. Bydd aelodau o staff ar gael ar y safle hefyd i gefnogi unrhyw gleifion sy'n cael anhawster defnyddio'r ciosgau.

Mae defnyddio ciosg yn helpu i leihau ciwiau ac yn cadw clinigau i redeg yn esmwyth.

Os oes gennych nam ar eich clyw, neu'n rhannol ddall, mae gan y sgriniau hunan-gofrestru swyddogaethau wedi’u hadeiladu i'ch cefnogi naill ai i ddefnyddio'r system neu i gynorthwyo'ch profiad o fewn yr adran.