Bydd ail gam Adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) - am sut i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach a ddarperir mewn partneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac GCTMB GIG Cymru - yn digwydd rhwng 09 Hydref a 05 Tachwedd 2023 ar gyfer adborth gan y cyhoedd.
Bydd Cam 2 o ymgysylltu â'r cyhoedd yn digwydd o ddydd Iau 12 Hydref tan ddydd Gwener 20 Hydref yn gynhwysol trwy gyfuniad o sesiynau galw heibio anffurfiol, cyfarfodydd cyhoeddus personol - yn y Trallwng, Y Drenewydd, Machynlleth, Bangor a Phwllheli - a sesiynau rhithiol/ar-lein.
Yn ogystal ag amserlen y sesiynau ymgysylltu, bydd y cyhoedd yn gallu darparu eu sylwadau o 09 Hydref tan 05 Tachwedd drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys post, ffôn, a ffurflenni ar-lein.
Bydd y dogfennau ymgysylltu hefyd ar gael o 09 Hydref.
Roedd cam cyntaf ymgysylltiad cyhoeddus Cymru gyfan, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, yn canolbwyntio ar wrando ar sylwadau, ymholiadau a chasglu adborth ar sut i ddatblygu opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach.
Mae Stephen Harrhy, y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans sydd â'r dasg o arwain yr Adolygiad annibynnol, bellach yn annog y cyhoedd a rhanddeiliaid i wneud sylwadau fel rhan o Gam 2 lle bydd yn dal i wrando ar sylwadau cyhoeddus a rhanddeiliaid ar yr opsiynau a ddatblygwyd.
Dywedodd Mr Harrhy "Yn dilyn yr adborth a gasglwyd gennym trwy ystod o ddulliau yn ystod Cam 1, mae fy nhîm wedi bod yn gweithio ar ddatblygu opsiynau, ac mae modelu data cyflenwol hefyd wedi bod ar y gweill, yr wyf bellach am ei brofi gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid yng Ngham 2.
"Bu'n rhaid i ni ganolbwyntio'r digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ar yr ardaloedd lle bu y lefel uchaf o ddiddordeb presenoldeb yng Ngham 1 a dyna pam ein bod yn cynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb
yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Powys a Betsi Cadwaladr, yn ogystal â chynnig sesiynau ar-lein i'r rhai a allai fod yn well ganddynt ar-lein neu na allant fynychu sesiynau wyneb yn wyneb.
"Byddwn hefyd yn darparu gwasanaeth ateb dros y ffôn a ffurflen adborth ar-lein i roi cymaint o gyfle â phosibl i bobl wneud sylwadau ar yr hyn sy'n cael ei rannu."
Aeth Mr Harrhy yn ei flaen: "Pwysleisiais ar ddiwedd Cam 1 nad oedd penderfyniad wedi'i wneud o'r blaen ar y mater hwn ac mae'r ail gam hwn yn rhoi cyfle i mi rannu'r hyn a glywyd yng Ngham 1 a dangos sut mae hyn wedi'i gymhwyso i'r opsiynau a ddatblygwyd.
"Rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y ddeialog adeiladol a gawsom yng Ngham 1 ac rwy'n obeithiol y bydd Cam 2 yr un mor ddefnyddiol i mi wrth gyrraedd yr opsiwn a ffefrir y byddaf wedyn yn gallu ei argymell yn ffurfiol i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys am eu penderfyniad."
"Mae'r angerdd am y gwasanaeth ambiwlans awyr yn amlwg ac mae wedi bod yn amlwg bod awydd ar y cyd - rhwng y cyhoedd a rhanddeiliaid i gydweithio gyda'r Elusen ac GCTMB - i wneud y gwasanaeth partneriaeth gwych hwn hyd yn oed yn well i'n cymunedau yng Nghymru."
Lleoliad | Fformat | Dyddiad | Amser |
Neuadd y Dref Y Trallwng, 42 Heol Lydan, Y Trallwng SY21 7JQ |
Galw Heibio Cyhoeddus | Dydd Iau 12 Hydref | 12:00 - 15:00 |
Ysgol Uwchradd Y Trallwng Ffordd Salop, Y Trallwng SY21 7RE |
Cyfarfod Cyhoeddus | Dydd Iau 12 Hydref | 18:30 - 19:30 |
Theatr Hafren Campws y Drenewydd, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd SY16 4HU |
Galw Heibio Cyhoeddus | Dydd Gwener 13 Hydref | 12:00 - 15:00 |
Ysgol Uwchradd y Drenewydd Dolfor Road, Y Drenewydd, Powys, SY16 1JE |
Cyfarfod Cyhoeddus | Dydd Gwener 13 Hydref | 18:30 - 19:30 |
Machynlleth Rugby Club Plas Grounds, Banc Lane, Machynlleth SY20 8EL |
Galw Heibio Cyhoeddus | Dydd Llun 16 Hyd | 12:00 - 15:00 |
Ysgol Bro Hyddgen Greenfields, Machynlleth SY20 8DR |
Cyfarfod Cyhoeddus | Dydd Llun 16 Hyd | 18:30 - 19:30 |
Bangor City Council Offices Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT |
Galw Heibio Cyhoeddus | Dydd Mawrth 17 Hyd | 12:00 - 15:00 |
Bangor City Council Offices Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT |
Cyfarfod Cyhoeddus | Dydd Mawrth 17 Hyd | 18:30 - 19:30 |
Plas Heli Glan Y Don Industrial Estate, Yr Hafan, Pwllheli LL53 5YT |
Galw Heibio Cyhoeddus | Dydd Mercher 18 Hyd | 12:00 - 15:00 |
Ysgol Glan Y Mor Pwllheli LL53 5NU |
Cyfarfod Cyhoeddus | Dydd Mercher 18 Hyd | 18:30 - 19:30 |
Microsoft Teams Live Event | Cyfarfod Cyhoeddus Rhithwir | Dydd Iau 19 Hyd | 18:30 - 19:30 |
Microsoft Teams Live Event | Cyfarfod Cyhoeddus Rhithwir | Dydd Gwener 20 Hyd | 13:00 - 14:00 |