Neidio i'r prif gynnwy

Adrannau Argyfwng yn CTM

Neges gan Amanda Farrow, Cyfarwyddwr Clinigol ein Hadrannau argyfwng yn CTM.

Mae pob un o'n Hadrannau Argyfwng ar agor ac yn gweithredu fel arfer. Mae hyn yn cynnwys Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle NAD yw'r problemau presennol gyda'r to yn effeithio ar yr Adran Argyfwng. Os oes gennych anaf neu salwch difrifol neu sy'n bygwth bywyd, dylech barhau i gael mynediad at wasanaethau yn unrhyw un o'n tair Adrannau Argyfwng.

Rydym hefyd yn atgoffa ein cymunedau mai dim ond ar gyfer y bobl sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol neu'n sâl y mae ein Adrannau Argyfwng. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os byddwch chi'n cyrraedd cyn rhywun arall, os oes gennych chi gyflwr llai difrifol fe allech chi wynebu arhosiad estynedig.

Os ydych yn ansicr a oes angen gofal brys arnoch chi, neu ffrind neu berthynas, gallwch ddefnyddio Gwirwyr Symptomau GIG 111 Cymru ar-lein i gael cyngor. Trwy ddewis y gwasanaeth priodol byddwch yn helpu i gymryd y pwysau oddi ar ein staff prysur a chael eich gweld yn gyflymach gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o helpu gyda'ch problem.

Diolch am weithio gyda ni.

17/10/2024