Mae Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru bellach yn cael eu cydnabod gan Achrediad Cyfeillgar i Fabanod UNICEF.
Mae'r fenter yn cydnabod ymdrechion staff mamolaeth i gefnogi mamau i fwydo eu babi newydd.
Mae Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu arfer gorau gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG, cyfleusterau gofal iechyd eraill a sefydliadau addysg uwch, gyda’r nod o sicrhau bod pob rhiant yn gwneud penderfyniadau gwybodus am fwydo eu babanod ac yn cael eu cefnogi yn eu dewis ddull bwydo. Gellir asesu ac achredu cyfleusterau a sefydliadau sy'n bodloni'r safonau gofynnol fel rhai Cyfeillgar i Fabanod.
Mae staff mamolaeth yn CTM wedi'u hyfforddi yn y safonau Cyfeillgar i Fabanod ac yn cael hyfforddiant parhaus i'w helpu i gefnogi mamau. Mae'r tîm yn arbennig o dda am hyrwyddo cyswllt croen wrth groen rhwng mamau a babanod ar ôl genedigaeth, gyda hyn yn digwydd 90.8% o'r amser, gan gynnwys ar ôl toriadau Cesaraidd.
Daw hyn yn dilyn y newyddion am lansiad y Strategaeth Bwydo Babanod CTM newydd sydd i’w gweld yma. Dyma ein gweledigaeth, sy’n dangos ein hymrwymiad i brofi bod pob teulu newydd â gofal a chymorth personol i wneud dewisiadau gwybodus am fwydo eu babi.
Dywedodd Rosy Phillips, Bydwraig Arbenigol Bwydo Babanod: “Mae cynnal ein safonau cyfeillgar i fabanod yn bendant yn ymdrech tîm. Mae’n gyflawniad rhagorol ac yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Byddwn nawr yn gweithio tuag at wobr Aur BFI UNICEF.”
“Rydym am sicrhau bod mamau’n cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw feithrin a bwydo eu babanod newydd.”
Mae Menter Cyfeillgar i Fabanod y DU yn seiliedig ar raglen achredu fyd-eang UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n cael ei gynllunio i gefnogi bwydo ar y fron, bwydo fformiwla ddiogel a pherthnasoedd rhwng rhiant a baban trwy weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i wella safonau gofal.
Mae bwydo ar y fron yn lleihau'r risg y bydd babanod yn mynd yn sâl. Mae hefyd yn gysylltiedig â llai o risg o afiechyd yn ddiweddarach yn ystod plentyndod ac mae'n amddiffyn iechyd y fam.
Mae gweithredu safonau Cyfeillgar i Fabanod yn ffordd brofedig o gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron. Mae hefyd yn golygu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol roi'r gefnogaeth, y wybodaeth a'r anogaeth sydd eu hangen ar famau.
13/03/2025