Neidio i'r prif gynnwy
Lisa Hall

Uwch Wyddonydd Biofeddygol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Amdanaf i

Uwch Wyddonydd Biofeddygol

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

Ar hyn o bryd rydw i’n Uwch Wyddonydd Biofeddygol yn gweithio ym maes Haematoleg a Cheulad. Rydw i wedi bod yn gweithio yn y swydd hon ers dwy flynedd, ac wedi bod yn wyddonydd biofeddygol ers 2002.

Rwy'n gweithio mewn labordy ac felly rwy'n gweithio ar y meinciau'n rheolaidd, gan berfformio profion haematoleg a cheulo yn ogystal â hyfforddi staff yn y gweithdrefnau hyn.  Y peth gorau am fod yn wyddonydd biofeddygol mewn haematoleg yw morffoleg - rydyn ni'n cael edrych ar waed pobl i lawr microsgop. Am eiliad fer mewn amser rydym yn gwybod rhywbeth am ein claf nad oes neb arall yn ei wybod.

Mae diwrnod arferol yn dechrau gyda gwybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo o'r sifft nos ac adolygiad o lefelau staffio'r labordy. Mae ein labordy’n cynnig gwasanaeth 24 awr, felly ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod pob sifft yn cael ei llenwi – yna byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant staff, gweithgareddau o safon a gwaith gweinyddol yn cael eu cynnwys o gwmpas hynny. Un o heriau’r rôl yw pan fo prinder staff, mae’n ei gwneud yn anodd cynnal y lefelau hyfforddi.

Mae ysgrifennu gweithdrefnau, dylunio a pherfformio asesiadau cymhwysedd staff, rheoli stoc a chaffael, sicrhau ansawdd allanol, gwiriadau offer dadansoddwr yn rhai yn unig o fy nhasgau.
 

Fel uwch aelod o staff, rwy’n gyfrifol am ymchwilio i ddigwyddiadau ac achosion o ddiffyg cydymffurfio, nodi camau unioni a rhoi newid ar waith. Fi hefyd yw cynrychiolydd iechyd a diogelwch fy labordy, sy'n gofyn am arolygiadau rheolaidd, archwiliadau, asesiadau risg a chasglu dogfennau canllaw diogelwch.

Rwy'n angerddol am haematoleg - mae trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon yn rhywbeth rwy'n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch. Mae hyfforddi a mentora Gwyddonwyr Biofeddygol newydd (BMS) yn rhan gyson o'n gwaith - os caiff ei wneud gyda brwdfrydedd yna, gobeithio, bydd gan wyddonwyr y dyfodol yr un brwdfrydedd dros ddysgu ar y cyd.

Astudiais fel Gwyddonydd Biofeddygol ym Mhrifysgol Wolverhampton a chymhwyso 23 mlynedd yn ôl. Rydw i hefyd wedi gwneud fy nhystysgrif arbenigol mewn Trallwysiad gwaed gyda Chymdeithas Trallwysiad gwaed Prydain (BBTS). Er ei bod yn bosibl cael gradd mewn gwyddoniaeth fiofeddygol, ni allwch weithio fel gwyddonydd biofeddygol cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) hyd nes y byddwch wedi cwblhau portffolio o waith mewn labordy a'i gyflwyno i aseswr Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol (IBMS). Mae hyfforddiant yn rhan hanfodol o gynnal ein gweithlu. Roeddwn yn Birmingham yn Ysbyty’r Ddinas ar gyfer fy hyfforddiant – mae hon yn ganolfan drawma rhanbarthol yn ogystal â chael gwasanaeth haematoleg arbenigol felly yn lle ardderchog i ennill profiad.

Ar ôl hyn des i’n ôl i Gymru i fod yn nes adref a gweithio yn y labordy yn ysbyty Tywysoges Cymru am 18 mis. Symudais draw wedyn i Ysbyty Brenhinol Gwent lle roeddwn i tan 2011. Yn dilyn hynny, gweithiais yn y labordy yn Ysbyty Southmead ym Mryste tan ddiwedd 2022 pan symudais i BIPCTM i ddechrau fy rôl gyntaf fel uwch wyddonydd biofeddygol.

Fy nghyngor i unrhyw fenywod neu ferched ifanc eraill sy'n edrych i weithio yn y maes hwn yw peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Mae'r swydd hon yn gofyn am ymroddiad ond mae'n werth chweil. Os ydych chi eisiau swydd, gwnewch gais amdani. Os na chewch chi'r swydd, mae'n dal i fod yn brofiad da a fydd yn eich gwasanaethu'n dda yn eich cyfweliad nesaf.

Yn y dyfodol, hoffwn gwblhau rhai modiwlau MSc neu ddiploma arbenigol uwch gyda’r posibilrwydd o newid fy llwybr gyrfa tuag at wyddonydd clinigol.

Dilynwch ni: