Uwch Wyddonydd Biofeddygol / Swyddog Rheoli Ansawdd Patholeg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Uwch Wyddonydd Biofeddygol / Swyddog Rheoli Ansawdd Patholeg
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth
Cefais fy ngeni yn y DU ac yna, yn 7 oed, symudon ni i Malawi, yna Swaziland (Eswatini erbyn hyn) a Zambia tra yn yr ysgol yn Ne Affrica. Hyfforddais yno fel Technolegydd Meddygol mewn Patholeg Glinigol. Mae gofal iechyd yn Ne Affrica yn dra gwahanol nag yn y DU. Gofal iechyd preifat ydyw yn bennaf, felly mae cymysgedd o labordai amlddisgyblaethol bach yn yr ysbytai gydag ychydig o labordai tebyg i ganolbwynt mwy mewn lleoliadau anghlinigol lle mae mwyafrif y gwaith arferol yn cael ei brosesu.
Dychwelais i'r DU tua 18 mlynedd yn ôl. Pan adewais Dde Affrica, roeddwn yn Rheolwr Rhanbarthol ac roedd gen i brofiad mewn Haematoleg, Biocemeg a Microbioleg. Fy swydd gyntaf yn y DU oedd fel locwm biocemeg mewn ysbyty yng Nghaint. Unwaith i mi dderbyn fy nhrwydded i ymarfer fel gwyddonydd biofeddygol, cafodd swydd barhaol ei gynnig i mi. Yna symudais draw i haematoleg yn yr un labordy lle cefais y cyfle i ddysgu am drallwysiad gwaed a chofrestrais fy hun i wneud tystysgrif arbenigol mewn ymarfer gwyddoniaeth trallwysiad.
Yna penderfynais wneud cais am swydd yn ysbyty Hammersmith yn Llundain, cartref haematoleg. Yma cefais gyfle i ddysgu gwneud llawer mwy o brofion arbenigol a gweld enghreifftiau o amrywiaeth eang o annormaleddau haematolegol gwahanol. Cefais y fraint hefyd o weithio gyda rhai o'r bobl fwyaf gwybodus y bydda i byth yn cwrdd â nhw yn fy mhroffesiwn. Erbyn i mi adael, roeddwn i'n gweithio yn ysbyty'r Santes Fair (yr un grŵp labordy) fel yr uwch wyddonydd ar gyfer haematoleg arbennig, yn profi am haemoglobinau annormal ac ensymau celloedd coch.
Yn dilyn hynny, penderfynodd fy ngŵr a fi symud i Gymru hardd a thrawsnewidiais i weithio yn Ansawdd. Rydw i bellach yn Swyddog Rheoli Ansawdd ar gyfer adran Patholeg CTM ac wedi bod yn y rôl hon ers dwy flynedd. Mae'r rôl hon hefyd yn fy ngalluogi i fod yn amlddisgyblaethol eto wrth i mi weithio gyda phob un o'r adrannau Patholeg. Mae CTM yn cynnal labordai ar draws dau safle ysbyty gwahanol (Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl) felly rwy'n tueddu i dreulio dau ddiwrnod yr wythnos ar bob safle ac yna un diwrnod yr wythnos yn gweithio o gartref. Mae fy rôl yn cynnwys archwilio, cydymffurfio â safonau rhyngwladol a lleol, ysgrifennu polisïau a chynorthwyo labordai gyda beth bynnag y galla i ei helpu. Gallai hyn gynnwys ysgrifennu neu adolygu gweithdrefnau, ymchwilio i ddigwyddiadau, datrys materion iechyd a diogelwch, monitro tymheredd, hyfforddi a sefydlu staff newydd neu ddadansoddi data - nid oes dau ddiwrnod yr un fath.
Rwy'n mwynhau gallu helpu pobl a bod mewn sefyllfa i wneud newidiadau cadarnhaol a gweld effaith y newidiadau hynny. Yn aml pan fyddwch chi'n gweithio ar y fainc yn y labordy, gallwch chi weld pa newidiadau sydd angen eu gwneud ond rydych chi'n rhy brysur i wneud y newidiadau hynny eich hun. Fodd bynnag, pan fydda i yn y labordy yn cynnal archwiliadau, galla i weld lle mae angen gwelliannau, siarad â'r gwyddonwyr yn y labordy, darganfod beth fyddai'n gweithio, mynd ag awgrymiadau nhw a fy rai i i gyfarfodydd ac yna gwneud newidiadau i wella'r gweithle a diogelwch cleifion.
Mae'r rôl hon hefyd wedi fy ngalluogi i ddianc rhag gweithio sifftiau. Rydw i’n berson boreol felly ddim yn addas iawn i fod yn effro drwy'r nos! Fodd bynnag, weithiau bydda i’n colli gweithio mewn labordy ac yn ei chael yn rhwystredig nad oes mwy o rolau labordy arferol ar gael nad ydyn nhw’n cynnwys gwaith sifft.
Y brif her rydw i wedi'i hwynebu yn fy ngyrfa yw'r ofn o sefyll i fyny, siarad a rhoi cyflwyniadau (er rwy'n falch o ddweud fy mod ar ben hynny nawr, trwy ailadrodd pur). Byddwn hefyd yn cael gwared ar bob ffôn oherwydd eu bod yn torri ar draws eich llif gwaith ac yn torri eich gallu i ganolbwyntio, ond dim ond fi yw hynny!
Mae hon yn yrfa lle mae eich cydweithwyr mwy profiadol yn eich hyfforddi ac yna rydych chi'n rhaeadru'r hyfforddiant hwnnw wrth i chi ennill profiad a phobl mwy newydd ymuno â'ch adran - rydyn ni'n gyson naill ai'n cael ein hyfforddi neu'n darparu hyfforddiant. Gall newid cyson ymddangos yn her neu’n rhwystr i rai ond, i mi, dyma’r peth gorau am ein proffesiwn. Nid yw gwyddoniaeth yn aros yn ei unfan - mae'n datblygu ac yn gwella'n gyson. Offer newydd, profion newydd, TG newydd, ffyrdd newydd o weithio a phobl newydd.
Fy nghyngor i unrhyw fenywod neu ferched eraill sydd am symud i rôl fel fy un i yw gwneud yn siŵr bod y brifysgol rydych chi'n ei mynychu yn cynnig gradd achrededig. Dylech hefyd gysylltu â'ch labordy lleol a gofyn i ymweld a’r lle, yn enwedig os oes gennych gyfweliad swydd wedi'i drefnu.
Mae'n debyg mai'r proffesiwn gwyddoniaeth fiofeddygol sydd â'r gyfran fwyaf o fenywod o'r holl wyddorau - mewn gyrfa sydd bellach yn 29 oed nid wyf erioed wedi gweithio mewn labordy sydd â mwy o ddynion na menywod.
Mae angen i chi fod yn weithiwr caled ac yn chwaraewr tîm i ddod ymlaen yn dda yn y proffesiwn hwn. Mae gofal iechyd, yn gyffredinol, yn 24/7 felly nid yw ar gyfer y gwangalon, ond mae'n rhoi boddhad a byth yn ddiflas. Yn 54 mlwydd oed, rwy'n eithaf hapus gyda sut mae fy ngyrfa wedi mynd hyd yn hyn. Dydw i ddim ar frys i ddod o hyd i unrhyw anturiaethau newydd eto gan mai dim ond ers dwy flynedd rydw i wedi bod yn fy rôl bresennol felly mae digon i'w ddysgu yma o hyd. Bydda i’n parhau i fod wrth fy modd yn edrych i lawr y microsgop ar waed pobl, gan geisio darganfod beth sy'n eu poeni. Mae gwyddonwyr biofeddygol yn griw ‘geeky’ ond, ar y cyfan, rydyn ni'n deulu hapus.