Pennaeth Perfformiad a Gwybodaeth (Gofal wedi'i Drefnu)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Pennaeth Perfformiad a Gwybodaeth (Gofal wedi'i Drefnu)
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth
Rydw i wedi bod yn fy rôl bresennol ers pedair blynedd, yn darparu dadansoddeg perfformiad ar gyfer gofal wedi’i drefnu, yn ogystal â defnyddio technegau ymchwil gweithredol i lywio newidiadau i wasanaethau. Mae gofal wedi'i drefnu yn golygu bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio i'r ysbyty, yn hytrach na chael eu derbyn fel achos brys. Yn syml ac yng ngeiriau’r Gymdeithas Ymchwil Weithredol, “gwyddor gwell” yw ymchwil gweithredol.
Cefais fy nenu at y rôl hon yn CTM gan ei bod yn rôl ddadansoddol uwch i gefnogi gwasanaethau i wella a rheoli eu meysydd clinigol. Nid ydw i’n berson a allai fod yn feddyg neu'n nyrs, ond rwy'n gwybod bod fy sgiliau yn caniatáu i mi helpu cleifion mewn ffordd anuniongyrchol. Er enghraifft, os yw gwasanaeth newydd yn cael ei sefydlu, galla i gyfrifo faint o le sydd ei angen, faint o glinigau, nifer y staff sydd eu hangen a pha amseroedd aros sy’n debygol o fod. Os ydy hyn yn cael ei wneud yn effeithiol o'r dechrau, mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i brofiadau cleifion.
Nid oes diwrnod arferol ac yn aml mae'n fater o ymateb i newidiadau neu heriau mewn gwasanaethau yn ogystal â chynllunio sut i ddarparu gwasanaethau'n fwy effeithiol. Yn ystod y digwyddiad to ysbyty Tywysoges Cymru yn ddiweddar, er enghraifft, bu’n rhaid i mi gyfrifo faint yn union o welyau y byddai eu hangen mewn ysbytai eraill i sicrhau y gallai cleifion gael eu trosglwyddo a’u trin yn effeithiol.
Rwy'n mwynhau helpu cleifion a thimau clinigol yn fawr. Efallai nad yw bob amser yn weladwy nac yn amlwg i'r rhan fwyaf o bobl, ond rydw i’n gwybod fod fy ngwaith yn helpu. Yn ddiweddar, adeiladais fodel yn Python - yr iaith raglennu gyfrifiadurol - sy'n gallu cyfrifo faint o welyau sydd eu hangen ar gyfer gofal cleifion mewnol ar gyfer ysbyty cyfan, gan ystyried natur dymhorol. Mae pwysau gwahanol ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a gellir dangos hyn yn y model i sicrhau nad oes bylchau annisgwyl yn y gwasanaeth.
Mae camsyniad cyffredin bod deall canlyniadau mathemategol yn rhy anodd neu annealladwy. Rwy’n aml yn clywed yr ymadrodd "Dydw i ddim yn gallu gwneud rhifau." Fy rôl i yw gwneud y gwaith mathemategol cymhleth neu fodelu cyfrifiadurol, ond ei wneud yn glir ac yn hygyrch. Rydw i bob amser yn ceisio esbonio neu gyflwyno fy ngwaith mewn nifer o ffyrdd i sicrhau bod y person neu'r adran sy'n derbyn yn deall beth rydw i’n rhoi iddyn nhw. Mae'r math hwn o wybodaeth wedi'i thargedu yn hanfodol i gael gofal cleifion yn iawn ac mewn rolau rheoli yn y GIG, mae rhifedd yn rhywbeth na ellir ei osgoi.
Er mwyn fy helpu i aros ar y blaen, ar hyn o bryd rwy'n darllen am lyfrgelloedd AI yn Python (TensorFlow) a sut y gellir eu defnyddio i ragweld hyd arhosiad claf. Rydw i hefyd yn mentora dadansoddwyr lle maen nhw eisiau ehangu i rôl ddadansoddol uwch neu ddysgu am beth rydw i’n wneud. Rydw i wedi elwa’n bersonol o fentora, ar ôl cael cefnogaeth Dr Jennifer Morgan, Gweithrediaeth y GIG, sy’n bennaeth llwyr ym maes Ymchwil Gweithredol. Menywod eraill mewn STEM rydw i’n edrych i fyny atyn nhw yw:
Os ydych eisoes yn gweithio mewn rôl gwybodeg, ewch i gyrsiau a fydd yn cyflwyno Python, R a Deallusrwydd Artiffisial (AI) i chi. Mae cyrsiau ar gael ar-lein neu drwy sefydliadau addysgol. Mae gan Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd , er enghraifft, gyrsiau rhaglennu cyfrifiaduron Python ac R. Mae ffioedd consesiynol a chynllun hepgor ffioedd ar gael i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf (os ydych chi’n ofalwr, yn berson sy’n gadael gofal, ag anabledd, yn derbyn budd-daliadau DWP, yn chwilio am swydd ar hyn o bryd, yn ddu neu’n lleiafrifoedd ethnig, yn LHDTC+, nid oedd eich rhieni wedi astudio mewn prifysgol neu os ydych yn byw mewn ardal lle, yn draddodiadol, nad oes llawer o bobl yn mynd i brifysgol).
I ferched sydd â diddordeb yn y math hwn o rôl yn y dyfodol, mae'n bwysig astudio pynciau sy'n gysylltiedig â mathemateg. Gall hyn fod yn heriol, yn enwedig pan fo sgiliau fel y rhain yn cael eu hystyried yn rhai “nerdi”. Manteisiwch ar y cyfle i astudio codio, ymuno â chlybiau a chymdeithasau yn yr ysgol neu'r coleg sy'n hyrwyddo gyrfaoedd i fenywod mewn STEM, a manteisio ar gyfleoedd profiad gwaith. Peidiwch ag oedi cyn cofrestru ar lefel A Mathemateg neu Fathemateg Bellach, neu wneud gradd mewn mathemateg. Mae gen i MSc mewn Ymchwil Gweithredol ac Ystadegau Cymhwysol, gyda diddordeb mewn Deallusrwydd Artiffisial. Roedd fy ngradd israddedig mewn Gweinyddu Busnes, yn bennaf ym maes cyllid, ac rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn mathemateg a rhifedd. Mae'r sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygais yn fy MSc yn effeithio'n uniongyrchol ar y gwaith rydw i’n cyflawni o ddydd i ddydd ac yn dylanwadu arno.