Neidio i'r prif gynnwy

Teithio o amgylch RhCT

Am wybodaeth gyffredinol am deithio i'r Eisteddfod, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rydyn ni’n annog staff CTM a chleifion sydd ag apwyntiadau yn ein cyfleusterau meddygol yn yr ardal yn ystod cyfnod yr Eisteddfod i gynllunio eu teithiau o gwmpas yr amseroedd hyn ac i ystyried amser ychwanegol ar gyfer teithiau. Rydyn ni hefyd yn awgrymu bod cleifion yn cario cardiau apwyntiad ac os bydd oedi, rhowch wybod i'r Ganolfan Apwyntiadau Cleifion ar 01443 443096.

Mae rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd ym Mhontypridd ar gael isod.

  • Mae disgwyl mwy o draffig yn ardal Pontypridd a'r cyffiniau.  Y cyfnodau disgwyliedig ar gyfer adegau traffig prysur yw 9.30 – 11yb, 4.30 – 7.30yp a 10.30yp – hanner nos.
  • Mae capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi’i gynyddu ac mae’n cynnwys cyfleusterau parcio a theithio/bws gwennol am ddim yn Abercynon a Threfforest. Ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol am fanylion llawn.

Cau ffyrdd

  • Dim ond rhwng 9yb - 1yb bob dydd o 3 - 10 Awst y bydd Stryd y Taf o'r gyffordd â Stryd y Bont ar gael i gerbydau a ganiateir er mwyn cadw parth cerddwyr yn ddiogel.
    • Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi i unigolion sydd ag angen cydnabyddedig am fynediad i gerbydau o fewn y parth. 
    • Bydd gweithwyr rheoli parcio yn cynnal a chadw'r pwyntiau mynediad ac yn gwneud penderfyniadau deinamig ynghylch mynediad i gerbydau. 
    • Mae cysylltiadau ar gael ar gyfer ein timau Nyrsio Ardal/Cymunedol os oes angen mynediad. Felly bydd mynediad ar gael i'r Ganolfan Iechyd a meddygfeydd a chlinigau yn yr ardal.
    • Mae gwybodaeth ddosbarthu benodol ar gyfer Fferyllfeydd o fewn y ffyrdd sydd ar gau wedi'i darparu i arweinwyr trafnidiaeth CBSRhCT i sicrhau mynediad.
  • Tra bydd Heol Berw yn parhau i fod ar agor, bydd parcio ar y stryd yn yr ardal hon yn cael ei wahardd a bydd egwyddor 'dim stopio' yn cael ei defnyddio a’i gorfodi i gynnal llif traffig a mynediad i’r maes gwersylla a Maes B. Bydd mannau parcio ar gael o fewn y maes gwersylla ar gyfer staff nyrsio ardal os oes angen ymweliadau â chleifion yn y maes hwn.

Parcio ceir

  • Bydd Maes Parcio Gas Road yn cael ei gyfyngu i ddeiliaid trwydded yn unig o 1 - 11 Awst. Bydd busnesau sy’n cael eu heffeithio arno yng nghanol y dref yn cael eu cysylltu a bydd trwyddedau'n cael eu darparu lle bo angen busnes.
  • Bydd Maes Parcio Catherine Street ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas sy’n ymweld â’r Eisteddfod yn unig o Awst 3 – 11.
  • Bydd pob maes parcio arall o fewn ac o amgylch canol y dref yn gweithredu fel arfer.
Dilynwch ni: