Mae'r rhan fwyaf o wyliau'r DU yn cael eu cynnal mewn caeau neu ar dir fferm. Mae hyd yn oed Gŵyl Reading sydd yn bellter cerdded o galon y ddinas yn digwydd ar fferm. A lle mae tir fferm ac anifeiliaid, mae yna drogod yn debygol o fod. Eleni mae'r Eisteddfod mewn tref ond mae'n bosibl y bydd ticiau o gwmpas o hyd. Os byddwch yn dod o hyd i tic ynghlwm wrth eich croen tra byddwch mewn gŵyl, eich dewis gorau yw mynd i un o'r canolfannau meddygol a allai fod ag offer tynnu’r drogen – mae'r rhain yn tynnu'r drogen gyfan, gan gynnwys y pen. Os ceisiwch ei dynnu eich hun gan ddefnyddio dulliau hen ffasiwn fel sigarét wedi'i oleuo, mae pob siawns y byddwch yn gadael pen y drogen yn eich croen ac rydych yn rhedeg y risg o haint lleol yn y brathiad.
Mae'r rhan fwyaf o frathiadau gan drogod yn ddiniwed, ond bob blwyddyn mae rhwng 2,000 a 3,000 o bobl yn y DU yn mynd ymlaen i ddatblygu cyflwr o'r enw Clefyd Lyme ar ôl cael eu brathu gan drogen. Po hiraf y bydd y drogen yn aros ynghlwm wrth eich croen, y mwyaf tebygol ydych chi o ddatblygu Clefyd Lyme os yw'r drogen yn cario'r haint.
Nid yw'r symptomau'n ymddangos tan rhwng 3 diwrnod a mis ar ôl cael eu brathu a gallant gynnwys brech gylchol lle digwyddodd y brathiad, teimlo fel bod ‘da chi’r ffliw gyda phoenau yn y cymalau, iasau oer a blinder. Os na fyddwch yn ceisio triniaeth feddygol gall y symptomau ddod yn llawer mwy difrifol, felly mae'n bwysig gweld eich meddyg a sôn eich bod wedi cael brathiad gan drogen. Gall y meddyg roi cwrs o wrthfiotigau ar bresgripsiwn i chi, ac unwaith eto mae'n bwysig cwblhau'r cwrs cyfan, peidiwch â rhoi'r gorau i'w cymryd pan fyddwch chi'n dechrau teimlo'n well!
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Z: Clefyd Lyme