Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddiadau

 

Rydych chi’n mynd i'r Eisteddfod ac o bosibl y peth olaf ar eich meddwl yw a yw imiwneiddiadau chi a'ch teulu yn gyfredol. Ond rydych chi'n mynd i fod yn llawer agosach nag arfer i filoedd o bobl. Y tri haint eithaf difrifol y gwyddom eu trosglwyddo mewn digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod yw meningitis, y frech goch a Covid, ac mae brechlynnau yn bodoli i'r tri. 

Os nad ydych chi neu aelodau'r teulu wedi cael o leiaf ddau ddos o'r brechlyn y Frech Goch, Clwy'r pennau a Rwbela (MMR) nid ydych yn cael eich amddiffyn rhag y frech goch, felly ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu cyn cychwyn ar gyfer yr ŵyl. Rydyn ni wedi cael achosion diweddar yng Nghymru. Gwiriwch gyda'ch meddyg teulu hefyd a yw'ch plant wedi cael y brechlynnau meningitis gofynnol. Unwaith eto os nad ydych wedi cael eich imiwneiddio gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu. 

Os nad ydych chi'n cael eich imiwneiddio ac yn ddigon anlwcus i ddal clefyd heintus tra yn yr Eisteddfod, mae'n debyg na fydd yr arwyddion a'r symptomau'n ymddangos tan ar ôl i'r ŵyl ddod i ben. Unwaith eto mae'n bwysig ceisio cyngor meddygol os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn enwedig os ydych chi'n datblygu unrhyw fath o frech.

 

Dilynwch ni: