Cwm Taf Morgannwg yw'r Bwrdd Iechyd GIG sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yn ardal yr Eisteddfod eleni. Fodd bynnag, mae darparwyr gofal iechyd ar y safle sy'n gallu delio â'r mwyafrif o faterion iechyd a allai godi felly nid oes angen gadael y Maes!
Gobeithiwn y cewch chi gyd amser diogel a phleserus yn yr Eisteddfod, ac wedi rhoi ychydig o gyngor iechyd at ei gilydd i’w ddarllen cyn cyrraedd a thra byddwch yn yr ŵyl.
Cyn i chi gyrraedd
Cofiwch ddod â’ch holl feddyginiaethau gyda chi – mae hyn yn cynnwys unrhyw anadlyddion, EpiPens, tabledi atal cenhedlu a gwrth-histaminau. Efallai na fydd fferyllfa leol yn gallu rhoi eich meddyginiaethau arferol i chi, yn enwedig os ydynt ar bresgripsiwn yn unig.
Os oes gennych gyflwr fel diabetes neu epilepsi sy'n golygu y gallech fynd yn sâl yn sydyn, gwisgwch freichled neu dlws crog MedicAlert a gwnewch yn siŵr bod unrhyw un sy'n teithio gyda chi yn gwybod am eich cyflwr. Efallai bod gennych chi ap meddygol defnyddiol ar eich ffôn hefyd – gwnewch yn siŵr ei fod yn gyfredol ac wedi’i alluogi.