Neidio i'r prif gynnwy

Cymwysterau a Phrentisiaethau

Rydyn ni’n angerddol am ddatblygu ein staff a “thyfu ein talent ein hunain” trwy brentisiaethau a chymwysterau, gan gynnig gyrfa werth chweil i’n pobl o fewn un o gyflogwyr mwyaf De Cymru.

Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn ffordd wych o ennill sgiliau “byd gwaith” amhrisiadwy wrth ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Fel aelod o dîm CTM, mae ein prentisiaid yn barhaol o'r cychwyn cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch CTM.Qualifications@Wales.nhs.uk

“Rwy’n ysgrifennydd meddygol yn Adran Diabetes ac Endocrinoleg Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Cwblheais fy nghymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 4 yn 2021.

Roeddwn i eisiau dilyn y cwrs i ehangu fy ngwybodaeth yn y byd Gweinyddu Busnes a defnyddio unrhyw sgiliau y byddwn yn eu dysgu o fewn fy rôl bresennol a'u rhannu gyda chydweithwyr.

Mwynheais y cwrs yn fawr a mwynheais y dyddiau gweithdy yn arbennig.

Mae cwblhau'r cymhwyster hwn wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy rôl.

Roedd fy asesydd, Janet yn hynod gefnogol a chymwynasgar drwy gydol y broses gyfan.”

Bianca Jones, Ysgrifennydd Meddygol yn yr Adran Diabetes ac Endocrinoleg

 

Dilynwch ni: