Un peth y gallwch chi bron ei warantu os byddwch chi'n mynychu gŵyl yn y DU yn yr haf yw eithafion tywydd, mae naill ai'n rhy boeth, yn rhy wlyb neu'n rhy oer! Mae'n well dod yn barod ar gyfer pob math o dywydd, felly cotiau, wellies, hetiau haul a sbectol haul.
Os yw'n boeth yna yfwch ddigon o ddŵr, ceisiwch aros allan o'r haul a gwisgwch sbectol haul da ac o leiaf eli haul ffactor 30. Dylai oedolion iach anelu at yfed 2 i 3 litr y dydd, mwy yn y tywydd poeth neu os ydyn nhw'n gwneud mwy o ymarfer corff nag arfer. Mae dŵr, te neu goffi a diodydd meddal heb siwgr i gyd yn cyfrif tuag at y cyfanswm hwn. Y diodydd gorau i'w rhoi i blant yw dŵr a llaeth. Mae digon o beiriannau dŵr felly dewch â photel ddŵr y gellir ei hail-lenwi gyda chi.