Rydym am i chi gael amser da felly dyma awgrymiadau gorau ar gyfer cadw'n ddiogel.
- Yn gyntaf os ydych chi gyda ffrindiau, gofalwch am eich gilydd. Cymerwch dro bod yr un sydd â dydd/noson o beidio ag yfed i ofalu am eich ffrindiau. Yn anffodus ym mhob digwyddiad mawr bydd pobl yno sy’n gwneud rhyw ddrygioni, ac mae ymosodiadau a lladrad yn digwydd, felly arhoswch mewn grwpiau a gofalwch am eich eiddo.
- Efallai y bydd eich ffrindiau yn rhoi pwysau arnoch i yfed mwy nag arfer ac efallai y byddwch mewn perygl o gael eich diod wedi'i sbeicio. Felly cadwch lygad ar eich diod bob amser a pheidiwch â derbyn cynigion o ddiod gan rywun nad ydych yn ei adnabod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta cyn i chi ddechrau yfed a chael diod feddal neu ddŵr rhwng eich diodydd alcoholig
- Mae cyffuriau yn ffaith o fywyd yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, ac mae gwyliau yn ddigwyddiadau lle mae ataliadau yn hedfan i ffwrdd. Efallai y bydd eich ffrindiau hefyd yn ceisio eich perswadio i gymryd cyffuriau na fyddech fel arfer yn eu cymryd. Ond mae mwy a mwy o gyffuriau'n cael eu 'dorri' gyda sylweddau peryglus eraill ac nid oes gennych unrhyw ffordd o wybod beth yw'r cyffuriau neu'r cyfrwng torri, neu gryfder y cyffur, heblaw gair y person sy'n eu gwerthu i chi. Mae cyffuriau penfeddwol cyfreithlon bellach i gyd yn anghyfreithlon.
Os cewch eich temtio, byddwch yn ymwybodol nad oes unrhyw ffordd o wirio beth rydych yn ei gymryd, a gall y rhan fwyaf o gyffuriau anghyfreithlon gael sgil effeithiau annymunol iawn. Am ragor o wybodaeth am gyffuriau anghyfreithlon gweler www.talktofrank.com
Peidiwch â phoeni am geisio cymorth meddygol os ydych chi'n poeni am ffrind sy'n ymddangos fel pe bai wedi cymryd rhywbeth, anaml y caiff gwybodaeth ei rhannu gyda'r heddlu. Ac mae'n bwysig iawn bod yn onest gyda phwy bynnag sy'n trin eich ffrind am beth sydd wedi digwydd fel y gall ddewis y driniaeth briodol.