Cofrestrwch ar gyfer Her GetFit Eisteddfod Cwm Taf Morgannwg 2024 – trowch eich ymweliad â’r ŵyl yn antur gyffrous!
Cofrestrwch ar getfit.wales neu ewch i'n stondin Eisteddfod CTM.
Bydd angen ffôn symudol arnoch i gymryd rhan.
Bydd cydweithwyr o Get Fit Wales a Chwm Taf Morgannwg wrth law i’ch helpu i gychwyn arni ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Edrychwch ar fap yr Eisteddfod ar wefan yr Eisteddfod .
Cerdded ac ymweld â phob parth yn yr ŵyl. Bydd eich GPS yn tracio eich cynnydd ac yn troi’r parthau’n wyrdd ar y map ar wefan Getfit.wales.
Ymweld â holl barthau’r Eisteddfod i orffen yr her a chael eich cynnwys mewn raffl ddyddiol. Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr am 4pm bob dydd drwy ddewis ar hap a byddwch yn derbyn neges drwy ap Get Fit Wales os ydych wedi ennill gwobr. Casglwch eich gwobr o stondin Cwm Taf Morgannwg. Os ydych chi eisoes wedi gadael y safle ac wedi ennill un o'r Fitbits, bydd Get Fit Wales yn gwneud trefniadau i gael eich gwobr i chi.
Cwblhewch yr her i gael siawns o ennill y brif wobr – un o saith Fitbits! (Un wobr y dydd.) Mae yna hefyd 80 o boteli dŵr Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) CTM ar gyfer y rhai a ddaeth yn ail.
Bydd pawb sy’n ymuno â’r her yn derbyn sticer Get Fit Wales.
Cafodd yr her ei gynllunio i fod yn hwyl ac i helpu pobl i fod yn actif, ond rydym am wneud yn siŵr ei bod yn deg i bawb felly rydym wedi creu ychydig o reolau am yr her.
Dim ond unwaith y gall pob cyfranogwr ennill y brif wobr (Fitbit). Os ydych eisoes wedi ennill y Fitbit mewn diwrnod blaenorol, ni fyddwch yn gymwys i'w hennill eto. Bydd enillwyr dilynol yn derbyn yr ail wobr (potel ddŵr).
Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i Get Fit Wales am ei gefnogaeth partneriaeth gyda'r her lles corfforol cyffrous hon.
Darllenwch bolisi preifatrwydd Get Fit Wales .
Mae Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o fod yn bartner gyda thîm Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd tîm Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ar stondin Cwm Taf Morgannwg ddydd Llun, 5 Awst, fel rhan o raglen Eisteddfod ein bwrdd iechyd. Bydd y tîm wrth law i egluro pwysigrwydd sicrhau bod teulu ac anwyliaid yn gwybod eich dymuniadau o ran rhoi organau.
Bydd tîm Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG hefyd ar gael drwy gydol yr wythnos yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi organau, fel…
Beth yw rhoi organau?
Pwy all roi?
Sut alla i gofrestru?
…ymwelwch â stondin Cwm Taf Morgannwg i ddarganfod mwy.