Beth i'w wneud os oes angen i chi gael mynediad at ofal deintyddol brys yn yr Eisteddfod... mae'r adran hon yn rhoi popeth sydd angen i chi ei wybod.
Os oes angen i chi gael mynediad at ofal deintyddol brys ar gyfer unrhyw un o'r canlynol:
Defnyddiwch y rhif ffôn canlynol, os ydych yn bodloni'r meini prawf brys i gael eich gweld gan ddeintydd, bydd y tîm yn trefnu apwyntiad i chi neu'n rhoi cyngor:
0300 123 5060
Gallwch ffonio'r rhif hwn 24/7 a bydd aelod o'r tîm deintyddol yn eich ffonio yn ôl rhwng oriau:
Dydd Llun i ddydd Gwener, 09:30 — 16:30 neu 18:30 — 21:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 09:00 — 17:00
Bydd Taliadau'r GIG yn berthnasol am unrhyw driniaeth frys a ddarperir = £30 [oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag talu taliadau deintyddol y GIG, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn]
Mae iechyd da yn y geg yn bwysig ar gyfer iechyd a lles. Gall trefn brwsio/glanhau rheolaidd helpu i leihau'r risg o broblemau iechyd y geg, poen, anghysur a cholli dannedd.
Er mwyn cynnal iechyd y geg da, rydyn ni’n argymell y cyngor canlynol:
Mwynhewch yr Eisteddfod, a gofalwch am eich iechyd deintyddol i sicrhau profiad gwych!